5-y-penwythnos

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu dros y penwythnos.

Connor Roberts (Aberystwyth)
Perfformiad arwrol arall gan Connor Roberts sydd wedi bod yn gadarn rhwng y pyst ers ymuno âg Aberystwyth ar fenthyg o’r Seintiau Newydd. Hon oedd llechen lân gyntaf Aberystwyth yn UG Cymru y tymor hwn.

Sion Spence (Y Barri)
Chwaraeodd Spence bas hyfryd arweiniodd at gôl Y Barri yn erbyn Y Bala brynhawn Sadwrn i ymestyn rhediad y clwb i 10 gêm gynghrair heb golli y tymor hwn. Daeth Spence yn agos i sgorio o gic rydd gyda’i ergyd yn taro’r postyn ac mae wedi serennu ers ymuno ar fenthyg o Gaerdydd.

James Davies (Derwyddon Cefn)
Daeth Davies oddi ar y fainc a rhwydo dwy gôl hwyr i sicrhau triphwynt i’r Derwyddon yn erbyn y Cofis nos Wener. Ar ôl saith gêm heb fuddugoliaeth roedd hi’n ganlyniad campus i’r Derwyddon ar y Graig.

Dean Ebbe (Y Seintiau Newydd)
Sgoriodd Dean Ebbe ddwywaith wrth i’r Seintiau guro Pen-y-bont yn Stadiwm KYMCO ddydd Sadwrn. Mae’r pencampwyr wedi dechrau tanio ar ôl cyfnod sigledig a bydd dylanwad y Gwyddel yn allweddol os yw’r Seintiau am adennill eu lle ar y copa.

Andy Owens (Airbus UK)
Mae Andy Owens yn mwynhau ei gyfle fel prif flaenwr Airbus UK y tymor a sgoriodd ddwy gôl safonol i sicrhau buddugoliaeth allweddol yn erbyn Y Drenewydd ddydd Sadwrn. Dyw Airbus bellach ond saith pwynt tu ôl i Met Caerdydd yn y ras am y Chwech Uchaf.