5-y-penwythnos

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu dros y penwythnos.

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu dros y penwythnos.

Paul Harrison (Y Seintiau Newydd)
Dyw Harrison heb fod ar ei orau’r tymor hwn, ond mae’r golwr profiadol yn haeddu ei le yn 5-y-penwythnos ar ôl ei berfformiad erbyn Y Bala. Arbedodd gic o’r smotyn gan Louis Robles i sicrhau triphwynt hollbwysig i’r Seintiau, yn ogystal â’i llechen lân gyntaf ers y penwythnos agoriadol.

Matthew Jones (Aberystwyth)
Sgoriodd Matthew Jones o’r smotyn yn y funud olaf i ennill pwynt haeddiannol i’w dîm yn erbyn Cei Connah nos Wener. Dyma oedd ei gôl gyntaf yn UGC ers iddo sgorio yn erbyn Y Drenewydd ar ddiwrnod olaf tymor 2017/18.

Alex Fletcher (Y Drenewydd)
Dangosodd Alex Fletcher weledigaeth hyfryd wrth i’w bas perffaith ddarganfod Joe Kenton ar gyfer yr unig gôl o’r gêm yn erbyn Met Caerdydd nos Wener. Mae’r fuddugoliaeth yma’n golygu bod y ras am safle Chwech Uchaf dal yn fyw, gyda’r Robiniaid dim ond dau bwynt tu ôl i Met yn 6ed.

Darren Thomas (Caernarfon)
Roedd Darren Thomas ar dân prynhawn Sadwrn – ei bas hyfryd yn darganfod Leo Smith ar gyfer y gôl gyntaf, cyn i’r Cofi Messi sgorio’r ail gôl a selio’r fuddugoliaeth i Gaernarfon. Y Cofis yn neidio i’r bedwerydd safle yn y tabl ar ôl trechu’r Hen Aur ar yr Oval.

Kayne McLaggon (Y Barri)
Ymddangosiad arall yn 5-y-penwythnos i Kayne McLaggon wth i brif sgoriwr Y Barri ychwanegu gôl arall i’w gyfanswm y tymor hwn. Sgoriodd o’r smotyn yn erbyn Airbus wrth i’r Dreigiau gyrraedd y brig unwaith eto’r tymor hwn. Dyma oedd ei seithfed gôl o’r tymor.