5-y-penwythnos

5 y pen 16×9

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu dros y penwythnos.

Daniel Jefferies (Pen-y-bont)
Y cawr yn y cefn yn dwyn triphwynt hwyr ac yn sgorio ei gôl gyntaf Ben-y-bont. A fydd hon yn profi’n fuddugoliaeth fawr i fechgyn Rhys Griffiths?

Sam Barnes (Y Drenewydd)
Sgoriodd ei gol gyntaf i’r Drenewydd mewn buddugoliaeth dda ym mharc Latham dros Caernarfon.

Chris Venables (Y Bala)
Y bytholwyrdd Venables yn diddanu cynulleidfa Sgorio nos Wener drwy sgorio dwy, un yn odidog ac yn sicr o fod ar restr fer Gôl y Mis

Jamie Insall (Cei Connah)
Cei Connah yn cymryd mantais o’r dyn ychwanegol yn erbyn Y Barri – Insall yn casglu dwy o ganlyniad i’w ymdrechion.

Louis Robles (Y Bala)
Robles yn ddraenen yn ystlys Aberystwyth nos Wener. Blaenwr Y Bala oedd Seren y gem yn y fuddugoliaeth 0-5 ar ol sgorio dwy gol dda naill ochr i’r egwyl.