5-y-penwythnos

5 y oen 16 9

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu dros y penwythnos.

Michael Jones (Derwyddon Cefn)
Chwaraeodd Michael Jones ran bwysig yn y fuddugoliaeth yn erbyn Y Barri ddydd Sadwrn – ei arbedion safonol yn ddigon i sicrhau’r driphwynt i Cefn – ac yn golygu bod yr Hynafiaid yn ennill pedair gem yn olynol yn UGC am y tro cyntaf yn eu hanes. Dyma oedd ail lechen lân Jones o’r tymor.

Ryan Brobbel (Y Seintiau Newydd)
Roedd Ryan Brobbel yn ôl ar ei orau nos Wener wrth i’r Seintiau guro Aberystwyth 2-0 ar Neuadd y Parc. Sgoriodd ei gôl gyntaf ers mis Medi i gadw’r pwysau ar Gei Connah ar frig y tabl.

Charley Edge (Derwyddon Cefn)
Sgoriodd Charley Edge ei gôl gyntaf yn Uwch Gynghrair Cymru ar y penwythnos. Ei gôl yn ddigon i ennill y gêm ar Y Graig yn erbyn Y Barri ac yn gyrru Cefn i’r Chwech Uchaf.

Michael Bakare (Cei Connah)
Perfformiad allweddol arall gan yr asgellwr Michael Bakare. Chwaraeodd ran yn yr ail gôl yn ogystal â sgorio’r drydedd, wrth i Gei Connah gryfhau eu gafael ar y brig.

Liam Thomas (Caerfyrddin)
Enillodd Caerfyrddin am y tro cyntaf yn yr Uwch Gynghrair ar y penwythnos – ac mae lot o’r diolch yn mynd i Liam Thomas am hynny. Ei fflic hyfryd yn creu gôl Luke Bowen, cyn rhoi’r bêl ar blat i Elliot Scotcher sgorio ei gôl gyntaf yn UGC – a hynny yn erbyn ei gyn-glwb Met Caerdydd!