5-y-penwythnos

thumbnail_5 y pen 16×9

Sgorio sydd yn rhoi sylw i bum chwaraewr sydd wedi serennu dros y penwythnos.

Dave Jones (Y Drenewydd)
Dyw’r Drenewydd heb ildio yn eu tair gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth, ac mae lot o’r diolch yn mynd i’r golwr Dave Jones am hynny. Ei arbedion safonol yn helpu codi’r Drenewydd uwch ben Met Caerdydd i’r seithfed safle, triphwynt un unig tu ôl i Cefn yn chweched.
Cadwodd Jones ei bumed lechen lân o’r tymor yn erbyn Caerfyrddin ar y penwythnos – dim ond Alex Ramsay a Lewis Brass (6) sydd wedi cadw mwy yn y gynghrair.

Ryan Brobbel (Y Seintiau Newydd)
Chwaraeodd Ryan Brobbel ran allweddol yn y fuddugoliaeth 1-4 yn erbyn Y Barri yn fyw ar Sgorio nos Wener. Brobbel greodd gôl Aeron Edwards ar gyfer gôl gyntaf y gêm, cyn sgorio’r ail o’r smotyn.
Y fuddugoliaeth yma’n creu bwlch o bedwar pwynt i’r Seintiau ar y brig, ond fe all Y Bala gwtogi hyn i driphwynt gyda buddugoliaeth yn erbyn Pen-y-bont nos Fawrth.

Darren Thomas (Caernarfon)
Dyw hi ddim yn syndod i weld Darren Thomas yn ymddangos yn 5-y-penwythnos Sgorio am y pedwerydd tro’r tymor hwn. Sgoriodd ddwy gôl yn erbyn Airbus UK, gan gynnwys un o’r goliau gorau’r tymor! Ergyd hyfryd gyda thu allan ei droed i gornel uchaf y rhwyd.
Y ddwy gôl yma’n golygu bod y Cofi Messi wedi sgorio pedair gôl yn ei ddwy gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth.

Joe Faux (Derwyddon Cefn)
Dyma ymddangosiad cyntaf Joe Faux yn 5-y-penwythnos Sgorio ac mae’r ymosodwr yn gwbl haeddianol o’i le – sgoriodd ei gôl gyntaf i’r Derwyddon wrth i fechgyn Huw Griffiths rhoi diwedd ar rediad Cei Connah o 16 gêm heb golli yn y gynghrair. Mae Cefn wedi ennill wyth o’u naw gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth.

Geoff Kellaway (Aberystwyth)
Sgoriodd y bytholwyrdd Geoff Kellaway ddwy gôl bwysig iawn wrth i Aberystwyth guro Met Caerdydd yn y brifddinas ar y penwythnos. Dyma oedd ei goliau gyntaf ers sgorio yn erbyn Derwyddon Cefn ym mis Awst.