5-yr-ŵyl

5 y penwythnos sr

Sgorio sydd yn dewis tîm 5-bob-ochr Uwch Gynghrair Cymru yr wythnos.

Dave Jones – Y Drenewydd
Eto mae Jones wedi profi ei hun fel un o golwyr gorau’r Gynghrair dros gyfnod y Nadolig, gan ildio dim ond un gôl yn y ddwy gêm rhwng Y Drenewydd ac Aberystwyth.
Mae Jones wedi cadw chwe llechen lân y tymor hwn, ac mae perfformiadau’r golwr wedi helpu’r Robiniaid sicrhau eu lle yn y Chwech Uchaf ar gyfer ail ran o’r tymor.

Ryan Brobbel – Y Seintiau Newydd
Roedd Brobbel yn ddraenen yn ystlys tîm Huw Griffiths dros y ddwy gêm rhwng Y Seintiau Newydd a Derwyddon Cefn. Sgoriodd bedair gôl, gan gynnwys hat-tric mewn buddugoliaeth o 7-1 ar ddydd San Steffan.
Mae’r Seintiau yn parhau i edrych yn berig, gyda thîm Scott Ruscoe dim ond dau bwynt o’r brig ac yn sicr i frwydro i gadw eu gafael ar dlws y bencampwriaeth.

Sion Bradley – Caernarfon
Sgoriodd Sion Bradley i unioni’r sgôr a sicrhau pwynt i Gaernarfon yn y gêm gyfartal 3-3 gyda Llandudno ar yr Oval. Hefyd llwyddodd i agor y sgorio yn yr ail gêm rhwng y timau ar ddydd Calan yn y gêm gyfartal 1-1.
Mae’r goliau a’r pwyntiau wedi profi’n allweddol yn y ras am y Chwech Uchaf. Mae Caernarfon yn eistedd yn y chweched safle a bydd buddugoliaeth yn erbyn Caerfyrddin ddydd Sadwrn yn ddigon i sicrhau lle’r Cofis yn y Chwech Uchaf ar gyfer ail ran y tymor.

Nick Rushton – Y Drenewydd
Mae goliau Rushton eto yn profi’n allweddol i’r Robiniaid wrth iddo sgorio dwy gôl yn y ddwy gêm gynghrair yn erbyn Aber dros yr wyl.
Mae’r blaenwr wedi rhwydo 10 gôl gynghrair y tymor hwn wrth i’r Drenewydd sicrhau eu lle yn y Chwech Uchaf.

Luke Bowen – Caerfyrddin
Sgoriodd y blaenwr ddwy gôl i’r Hen Aur mewn buddugoliaeth 2-0 dros Lanelli ar ddydd Calan gan helpu Caerfyrddin i’w buddugoliaeth gyntaf ers Tachwedd 17. Fe hefyd sgoriodd yn y gêm gyfartal 1-1 ar ddydd San Steffan.