Azerbaijan 0-2 Cymru

Football – UEFA Euro 2020 Qualifying Group E – Azerbaijan v Wales
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Sadwrn, 16 Tach 2019, 19:27

Goliau gan Kieffer Moore a Harry Wilson yn cadw’r freuddwyd o gyrraedd Ewro 2020 yn fyw. Roedd Cymru eisoes wedi sicrhau eu lle yn y gemau ail-gyfle, ond mae gan Cymru y cyfle i gyrraedd Ewro 2020 os yw Slofacia ddim yn ennill nos Sadwrn yn erbyn Croatia a Chymru yn ennill yn erbyn Hwngari nos Fawrth.

Fe aeth Cymru ar y blaen o fewn y deg munud agoriadol, gyda Kieffer Moore yn rhoi tîm Ryan Giggs ar y blaen. Y blaenwr mawr yn penio ar y postyn pellaf o gic gornel Harry Wilson.

Llwyddodd Cymru I ddyblu’r fantais cyn yr egwyl, Dan James gydag ergyd nerthol o du allan I’r cwrt cosbi yn taro’r trawst a Harry Wilson yn penio i’r gôl wag.

Hanner dda i Gymru, heb llawer o fygythiad gan y tîm cartref.

Fe ddoth seren Juventus, Aaron Ramsey ymlaen am y tro cyntaf yn yr ymgyrch ragbrofol yma, gyda Gareth Bale yn gadael y cae.

Llwyddodd Cymru i ennill y gêm 0-2, gan gadw’r gobaith o gyrraedd Ewro 2020 yn fyw.

Bydd Cymru yn croesawu Hwngari i Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fercher, y gêm yn fyw ar S4C.