Bangor v Caernarfon fydd gêm fyw Cwpan Cymru Sgorio

Bangor v Caernarfon Cwpan Cymru
Sgorio

Sgorio

Dydd Gwener, 4 Jan 2019, 10:41

Bangor v Caernarfon fydd gêm fyw Sgorio ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru JD, i’w chwarae am 7.30 ar nos Sadwrn 26 Ionawr.

Mae’n addo bod yn gêm enfawr rhwng dau o elynion pennaf gogledd Cymru, sydd heb gwrdd ar y lefel uchaf yng Nghymru ers degawd ac heb gwrdd yng Nghwpan Cymru ers 1998, pan enillodd Bangor o ddwy gôl i ddim ar Ffordd Farrar.

Methodd y ddau glwb ei gilydd dros yr haf – Caernarfon yn codi i Uwch Gynghrair Cymru JD a Bangor yn syrthio i Gynghrair Undebol Huws Gray y Gogledd.

Credir felly mai hon yw’r gêm gyntaf erioed rhwng y timau gyda Chaernarfon yn chwarae ar lefel uwch na Bangor.

Bangor v Caernarfon ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru JD yn fyw ar S4C am 7.20 ar 26 Ionawr, cic gyntaf am 7.30