Bwlgaria sydd nesa’ i’r Seintiau Newydd

Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Gwener, 2 Awst 2019, 15:01

Ar ôl colli yn erbyn FC København yn ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr, mae’r Seintiau Newydd yn cael ail gyfle yn Ewrop, ac hynny yn erbyn pencampwyr Bwlgaria, Ludogorets Razgrad, yn nhrydedd rownd ragbrofol Cynghrair Europa.

Mae Ludogorets wedi ennill pencampwriaeth Bwlgaria am yr wyth tymor diwethaf yn olynol, ac roedden nhw’n sicr yn un o’r clybiau y byddai’r Seintiau wedi hoffi eu hosgoi yn y rownd hon.

Cyrhaeddodd Ludogorets 16 olaf Cynghrair Europa ‘nôl yn 2013/14, a’r flwyddyn ganlynol roedden nhw yn yr un grŵp a Real Madrid, Lerpwl a Basel yng Nghynghrair y Pencampwyr (curo Basel a chael gêm gyfartal 2-2 yn erbyn Lerpwl).

Arsenal a PSG oedd yn rhannu grŵp gyda Basel a Ludogorets yng Nghynghrair y Pencampwyr 2016/17 – gorffennodd Ludogorets yn 3ydd yn y grŵp ar ôl dwy gêm gyfartal yn erbyn Basel a gêm gyfartal arall ym Mharis (2-2).

AC Milan yrrodd y Bwlgariaid allan o Gynghrair Europa yn y 32 olaf yn 2017/18 wedi iddyn nhw orffen yn ail yn eu grŵp, ond methodd Ludogorets a mynd heibio rownd y grwpiau y tymor diwethaf er cael gemau cyfartal yn erbyn Bayer Leverkusen a Zurich.

Fel Y Seintiau Newydd, fe ddechreuodd antur Ewropeaidd Ludogorets eleni yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr, ond colli bu eu hanes yn erbyn Ferencvaros o Hwngari (5-3 dros y ddau gymal).

Felly, syrthion nhw i ail rownd ragbrofol Cynghrair Europa ble enillodd Ludogorets 5-1 dros y ddau gymal yn erbyn Valur o Wlad yr Iâ yn eu rownd ddiwethaf.

Dyma ond y trydydd tro erioed i’r Seintiau Newydd gyrraedd y drydedd rownd ragbrofol yn Ewrop, a pe bae nhw’n gallu camu ymlaen i’r rownd nesaf yna bydden nhw yn y gemau ail gyfle am ond yr eildro yn eu hanes.

Bydd y cymal cyntaf yn cael ei chwarae yn y Ludogorets Arena ar nos Iau, 8 Awst, gyda’r ail gymal i’w chwarae’r nos Iau canlynol, 15 Awst, ar y Cae Ras yn Wrecsam.