Caernarfon v Y Seintiau Newydd – Yn fyw ar ein tudalen Facebook am 19:45

Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 25 Chw 2019, 12:32

Bydd Sgorio’n fyw o’r Oval heno pan fydd y Seintiau’n mentro i Gaernarfon yn chwilio am driphwynt i gamu uwchben Cei Connah ar frig y gynghrair.

Daeth rhediad rhagorol y Seintiau o saith buddugoliaeth yn olynol i ben yn erbyn Y Barri’r penwythnos diwethaf yn dilyn gôl ddramatig hwyr Jonathan Hood.

Ond dyw’r Seintiau heb golli gêm gynghrair ers y tro diwethaf iddyn nhw herio Caernarfon, ac hynny ym mis Tachwedd.

Er colli yn erbyn y Cofis yn Neuadd y Parc, dyw criw Croesoswallt heb golli gêm gynghrair ar yr Oval ers dros 20 mlynedd (Rhagfyr 1998).

Gemau diwethaf:
Y Seintiau Newydd 0-1 Caernarfon (09/11/18)
Caernarfon 0-3 Y Seintiau Newydd (31/08/18)

Rhediad diweddar yn UGC:
Caernarfon: ✅✅✅❌❌
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅➖