Cei Connah a Wrecsam yn camu ymlaen yng Nghwpan Her yr Alban

1567926368
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Sul, 8 Medi 2019, 09:04

Y Seintiau Newydd allan o’r gystadleuaeth ar ôl colli ar giciau o’r smotyn yn erbyn Stenhousemuir, ond Cei Connah a Wrecsam yn ennill eu lle ym mhedwaredd rownd Cwpan Her Yr Alban.

Fe gurodd Cei Connah eu gwrthwynebwyr o ail adran Yr Alban, Cove Rangers 1-0 diolch i gic rydd Michael Bakare.

Llwyddodd Cei Connah i gyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth llynedd, a mae tîm Andy Morrison yn parhau i greu argraff ar y gystadleuaeth eleni gan gyrraedd y bedwaredd rownd.

Roedd Wrecsam hefyd yn fuddugol yn eu gêm gyntaf yn y gystadleuaeth, gan guro Ayr United o’r bencampwriaeth 6-5 ar giciau o’r smotyn.

Yn anffodus fe gollodd Y Seintiau Newydd yn y drydedd rownd am yr ail dymor yn olynol, gan golli 3-1 ar giciau o’r smotyn yn erbyn Stenhousemuir.

Bydd yr enwau yn cael eu tynnu o’r het ar gyfer y bedwaredd rownd am 12:30 dydd Mawrth.