Cei Connah i wynebu cewri Serbia yn fyw ar Facebook

cei v partizan
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mercher, 24 Gor 2019, 15:00

Bydd cymal cyntaf ail rownd ragbrofol Cynghrair Europa rhwng Cei Connah a Partizan Belgrade yn fyw ar Facebook Sgorio a gwefan S4C Clic nos Iau am 6:30.

Ar ôl sicrhau buddugoliaeth hanesyddol o 2-3 dros ddau gymal yn erbyn Kilmarnock o Uwch Gynghrair yr Alban yn rownd ragbrofol cyntaf Cynghrair Europa, bydd bechgyn Andy Morrison yn wynebu Partizan Belgrade o Serbia yn yr ail rownd ragbrofol.

Bydd Sgorio yn dangos y cymal cyntaf yn fyw ar Facebook ac ar wefan S4C clic, gyda’r gic gyntaf am 6:30.

Ar gyfer uchafbwyntiau a’r newyddion diweddaraf, dilynwch @sgorio ar Twitter, Facebook ac Instagram.