Cei Connah i wynebu Kilmarnock yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Europa.

ewropa
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mawrth, 18 Meh 2019, 15:53

Mewn seremoni ym mhencadlys Uefa yn Nyon cafodd Cei Connah eu dewis i chwarae Kilmarnock o Uwch Gynghrair Yr Alban yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Europa.

Bydd Bechgyn Andy Morrison yn herio Kilmarnock o Uwch Gynghrair Yr Alban yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Europa.

Fe fydd Cei Connah yn croesawu’r Albanwyr i Belle Vue, Y Rhyl ar nos Iau 11 Gorffennaf cyn teithio i Kilmarnock ar 18 Gorffennaf ar gyfer yr ail gymal.

Mae gan y Nomadiaid brofiad o gystadlu yn erbyn gwrthwynebwyr Albanaidd ar ôl cyrraedd rownd derfynol Cwpan Her Irn Bru yr Alban tymor diwethaf.

Fe lwyddodd Cei Connah i guro Falkirk, Queen’s Park a Dinas Caeredin ar y ffordd i’r rownd derfynol, gan golli 1-3 yn erbyn Ross County.

Hefyd, fe all Y Barri wynebu FK Haugesund (Norwy) yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Europa os yw’ bechgyn Gavin Chesterfield yn curo Cliftonville (Gog. Iwerddon) yn y rownd gynragbrofol a bydd Met Caerdydd yn wyneb Cork (Iwerddon) os all y myfyrwyr guro Progrès Niederkorn yn y rownd gynragbrofol.