Rhagolwg Irn Bru: Cei Connah v Dinas Caeredin

irn_bru_cup_2
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Iau, 14 Chw 2019, 16:29

Rownd gynderfynol Cwpan Her Irn Bru sy’n dwyn y sylw, wrth i Cei Connah o Uwch Gynghrair Cymru JD gwrdd â Dinas Caeredin o Ail Adran yr Alban yn fyw ar S4C nos Sadwrn am 19:20.

Dyma’r trydydd tro i dîm o Gymru gyrraedd y rownd gynderfynol ond hyd yma, does neb o Gymru wedi llwyddo i gyrraedd y rownd derfynol – bydd Cei Connah a’u rheolwr o’r Alban, Andy Morrison, yn benderfynol o newid hynny.

Bydd tîm Andy Morrison yn croesawu Clwb Pêl-droed Dinas Caeredin i Stadiwm Glannau Dyfrdwy ar gyfer rownd gynderfynol Cwpan Her Irn Bru Yr Alban nos Sadwrn. Mae’r Nomadiaid yn gobeithio mae nhw fydd y tîm cyntaf o Uwch Gynghrair Cymru i gyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth ar ôl cyrraedd y pedwar olaf am y tro cyntaf yn eu hanes.

Mae Cei Connah yn anelu i gwblhau’r trebl y tymor yma, gyda’r Nomadiaid yn gosod y safon ar frig Uwch Gynghrair Cymru JD, wedi cyrraedd rownd yr wyth olaf Cwpan Cymru JD a trwodd i rownd gynderfynol Cwpan Irn Bru Yr Alban.

Mae’r Nomadiaid yn wedi curo timau da ar eu ffordd i’r pedwar olaf gan guro Falkirk (0-1) o’r Bencampwriaeth, yn ogystal â Coleraine (2-0) o Uwch Gynghrair Gogledd Iwerddon.

Yn rownd yr wyth olaf fe lwyddodd tîm Andy Morrison i guro Queen’s Park 1-2 ym Mharc Hampden, George Horan a Michael Wilde yn sgorio i Gei Connah.

Fel Cei Connah, mae Dinas Caereding ar frig eu cynghrair ac yn gobeithio cyrraedd Adram Gyntaf Yr Alban am y tro cyntaf yn eu hanes.

Tîm rhan amser o bedwaredd haen pêldroed yr Alban yw Dinas Caeredin.

Un i’w wylio o dîm Y Dinasyddion yw Blair Henderson, ymosodwr tal a phwerus sydd wedi sgorio 23 gôl mewn 24 gêm gynghrair y tymor hwn. Henderson yw prif sgoriwr Cwpan Her Irn Bru gan rwydo chwe gôl mewn pedair gêm yn y gystadleuaeth.

Un nodyn diddorol yw bod gan Gaeredin golwr o Gymru! Cafodd Calum Antell ei eni yn Y Fenni ac wedi cynrychioli Cymru dan19.

Mi fydd yr enillwyr yn herio Ross County neu East Fife yn y rownd derfynol, gyda’r ddau yn wynebu ei gilydd nos Wener yn Stadiwm Global Energy, Dingwall, cartref Ross County.

Rownd gynderfynol Cwpan Her Irn Bru, Cei Connah v Dinas Caeredin, yn fyw ar S4C nos Sadwrn am 19:20 gyda’r gic gyntaf am 19:25.