Cei Connah v Kilmarnock – yn fyw ar-lein

Sion Richards

Sion Richards

Dydd Gwener, 5 Gor 2019, 10:04

Fe fydd Sgorio yn dangos cymal cyntaf rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Europa rhwng Cei Connah a Kilmarnock, o’r Alban – yn fyw ar-lein ar dudalen Facebook Sgorio ac ar wefan S4C, nos Iau, Gorffennaf 11.

Mae’r gic gyntaf am 19:00 – gyda’r ffrwd yn cychwyn pum munud ynghynt.

Dylan Ebenezer fydd yn y pwynt sylwebu ar gyfer y darllediad uniaith Gymraeg yn unig.

Fe fydd bechgyn Andy Morrison yn croesawu’r Albanwyr i Belle Vue, Y Rhyl cyn teithio i Kilmarnock ar 18 Gorffennaf ar gyfer yr ail gymal.

Mae gan y Nomadiaid brofiad o gystadlu yn erbyn gwrthwynebwyr Albanaidd ar ôl cyrraedd rownd derfynol Cwpan Her Irn Bru yr Alban tymor diwethaf.

Fe lwyddodd Cei Connah i guro Falkirk, Queen’s Park a Dinas Caeredin ar y ffordd i’r rownd derfynol, gan golli 1-3 yn erbyn Ross County.