Cei Connah v Y Bala

NCM_3470
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Mawrth, 26 Chw 2019, 06:55

Cyfle i Gei Connah gamu ‘nôl i’r brig…

Nos Fawrth, 26 Chwefror

Cei Connah v Y Bala | Nos Fawrth – 19:45
Yn dilyn buddugoliaeth Y Seintiau Newydd ar yr Oval nos Lun mae’r pencampwyr wedi camu i’r copa, ond fe all Cei Connah ddringo ‘nôl i’r brig pe bae nhw’n curo’r Bala nos Fawrth.

Mae’r Bala ar rediad o bedair gêm heb fuddugoliaeth yn UG Cymru ac heb ennill gêm gynghrair ers trechu Cei Connah ar ddydd San Steffan.

Dyw Cei Connah heb gadw llechen lân yn eu 12 gêm ddiwethaf, ers curo Llandudno 3-0 ar y 1af o Ragfyr – tra bod criw Colin Caton heb gadw llechen lân yn UGC ers mis Tachwedd (Bala 3-0 Met).

Gemau diwethaf:
Cei Connah 4-1 Y Bala (01/01/19)
Y Bala 2-1 Cei Connah (26/12/18)
Y Bala 0-1 Cei Connah (30/10/18) Trydedd Rownd Cwpan Nathaniel MG

Rhediad diweddar yn UGC:
Cei Connah: ✅❌✅✅ ➖
Y Bala: ✅❌❌❌ ➖