Cei Connah yn barod am sialens yn Serbia

partizan v cei – 1 awst
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 29 Gor 2019, 15:48

Bydd Cei Connah yn herio Partizan yn ail gymal ail rownd ragbrofol Cynghrair Europa yn Stadiwm Partizan, Belgrad yn fyw ar S4C nos Iau 1 Awst am 20:00.

Ar ôl colli 0-1 yn erbyn Partizan yn y cymal cyntaf ar y Belle Vue, mae Andy Morrison yn grediniol fod ei dîm yn gallu ennill y rownd ragbrofol ar ôl profi buddugoliaeth oddi cartref yn y cymal cyntaf yn erbyn Kilmarnock o Uwch Gynghrair Yr Alban.

Ymunwch â Dylan Ebenezer, Owain Tudur Jones a’r tîm sylwebu, Nic Parry a Malcolm Allen, ar gyfer y gic gyntaf am 20.00 nos Iau 1 Awst, gyda’r rhaglen yn dechrau am 19.55.
Dilynwch @Sgorio ar Twitter, Facebook ac Instagram ar gyfer y newyddion diweddaraf.