Cei Connah yn cyrraedd rownd derfynol Cwpan Her Irn Bru Yr Alban.

ceici
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Sul, 17 Chw 2019, 00:55

Llwyddodd tîm Andy Morrison i guro Dinas Caeredin ar giciau o’r smotyn i sicrhau mae’r Nomadiaid yw’r tîm cyntaf o Uwch Gynghrair Cymru i gyrraedd rownd derfynol Cwpan Her Irn Bru Yr Alban.

O flaen torf o 1,068 yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy llwyddodd Cei Connah i sicrhau eu lle yn rownd derfynol Cwpan Her Irn Bru Yr Alban gan guro Dinas Caeredin ar giciau o’r smotyn.

Cei Connah yw’r tîm cyntaf o Uwch Gynghrair Cymru i gyrraedd y rownd derfynol, gyda tîm Andy Morrison yn wynebu Ross County o Bencampwriaeth Yr Alban yn y rownd derfynol ar benwythnos 23/24 Mawrth.

Sgoriodd capten Caeredin Josh Walker ar ôl dau funud o chwarae cyn i Michael Wilde unioni’r sgôr i’r Nomadiaid wedi 18 munud o chwarae.
Fe aeth Jake Phillips yn agos i roi’r Nomadiaid ar y blaen cyn yr egwyl ond i’w foli nerthol gael ei arbed gan golwr Caeredin, Calum Antell.

Roedd Cei Connah yn gryf yn yr amddiffyn drwy’r gêm ac yn chwarae steil pêl-droed uniongyrchol, gyda Jake Phillips yn defnyddio ei dafliad hir i groesi’r bel i’r cwrt cosbi ar sawl achlysur.

Prin oedd y cyfleoedd yn yr ail hanner wrth i’r gêm fynd i amser ychwanegol.

Fe aeth y gêm ymlaen i giciau o’r smotyn gyda Cei Connah rwydo eu pedwar cynnig cyntaf.

Methodd y blaenwr Michael Wilde gydag Antell yn arbed yn dda. Sgoriodd y capten George Horan cynnig nesaf y Nomadiaid ac fe lwyddodd y golwr John Danby i arbed cynnig Ciaran Diver i ennill y gêm i Gei Connah.

Bydd Cei Connah yn wynebu Ross County o Bencampwriaeth Yr Alban ar benwythnos 23/24 Mawrth. Lleoliad i’w gadarnhau.