Cwpan Her Yr Alban: Trydedd Rownd

Untitled-2
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mercher, 14 Awst 2019, 12:19

Mae clybiau Cymru wedi darganfod pwy fydd eu gwrthwynebwyr yn nhrydedd rownd Cwpan Her Yr Alban, gyda Chei Connah yn croesawu Cove Rangers o Ail Adran Yr Alban i Stadiwm Glannau Dyfrdwy a’r Seintiau Newydd yn teithio i’r Alban i wynebu Stenhousemuir.

Cafodd clybiau Uwch Gynghrair Cymru wybod pwy fydd eu gwrthwynebwyr yng Nghwpan Her Yr Alban heddiw, gyda chlybiau o Gymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban yn cystadlu yn y gystadleuaeth.

Bydd Pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru, Y Seintiau Newydd, yn teithio i Stenhousemuir o Ail Adran yr Alban, gyda Chei Connah – aeth ymlaen i rownd derfynol y gystadleuaeth y tymor diwethaf – yn croesawu Cover Rangers, hefyd o’r Ail Adran, i Stadiwm Glannau Dyfrdwy.

Yn ogystal â thimau o’r Uwch Gynghrair bydd Wrecsam hefyd yn cystadlu yn y gystadleuaeth y tymor yma, gyda’r Cochion yn croesawu Ayr United i’r Cae Ras yn y drydedd rownd.

Gemau trydedd rownd Cwpan Her Yr Alban i’w chwarae ar benwythnos 7-8 Medi.