Cyhoeddi carfan Cymru C ar gyfer gêm gyfeillgar yn erbyn Lloegr C

International Football – Women’s Under-17 Friendly – Wales U17 v Hungary U17
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mercher, 6 Maw 2019, 12:36

Mae’r Gymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi carfan Cymru C ar gyfer Gêm Gyfeillgar Ryngwladol C yn erbyn Lloegr C yn Stadiwm Peninsula, Salford City ar ddydd Mawrth, 19 o Fawrth. Mae’r rheolwr Mark Jones wedi dewis carfan o 21 chwaraewr o Uwch Gynghrair JD Cymru, sy’n cynnwys cyfuniad o brofiad ac ieuenctid.

Clwb pêl-droed y Barri yw’r clwb gyda’r nifer mwyaf o chwaraewyr yn y garfan, gyda phump o’u chwaraewyr nhw wedi ennill lle.

Mae perfformiadau’r amddiffynnwr Chris Hugh wedi creu cryn argraff y tymor hwn ac mae’n un o naw chwaraewr o garfan y llynedd sydd wedi ennill eu lle eto eleni.
Dau arall sydd wedi’i galw i’r garfan o’r llynedd yw Kayne McLaggon a Jordan Cotterill, tra bod perfformiadau Robbie Patten a Clayton Green yng nghanol cae dros y Barri yn sicrhau eu lle yng ngharfan Cymru C am y tro cyntaf.

Mae’r pâr o Met Caerdydd, Adam Roscrow ac Eliot Evans wedi cael eu galw i’r garfan eto diolch i’w perfformiadau cadarnhaol yn ddiweddar ac eleni mae eu cyd-chwaraewyr Emlyn Lewis a Joel Edwards yn ymuno â nhw.

Mae gan y Bala dri chwaraewr yn eu carfan. Mae Ashley Morris a Chris Venables yn dychwelyd eto eleni tra bod Henry Jones yn cwblhau’r tri o Faes Tegid.

Mae Clwb Pêl-droed Caernarfon wedi bod yn wych yn eu tymor cyntaf nôl yn yr Uwch Gynghrair, gan sicrhau safle yn haen uchaf y tabl a lle yng ngemau ail-gyfle Ewrop. Y gôl-geidwad Alex Ramsey a’r asgellwr Danny Brookwell yw’r ddau gofi yn y garfan.

Mae gan saith glwb arall yn Uwch Gynghrair Cymru un chwaraewr yn y garfan. Fe chwaraeodd 2 o’r 7, Aeron Edwards o’r Seintiau Newydd a Kai Edwards o Landudno yn y golled o 3-2 yn erbyn Lloegr ym Mharc Jenner y Barri’r llynedd.

O’r pump sydd ar ôl, mae dau amddiffynnwr – Callum Roberts o’r Drenewydd a Nathan Peate o’r Derwyddon Cefn. Mae Matthew Jones o Aberystwyth a Jake Phillips o Nomadiaid Cei Connah yn ddau ifanc yn ychwanegu at opsiynau canol cae’r garfan, tra bod 17 o goliau Liam Thomas ar gyfer Clwb Pêl-droed Caerfyrddin eleni’n gweld yr hen ben yn ymuno hefyd.

Bydd y gêm hefyd yn cael ei ffrydio’n fyw ar dudalen Facebook Sgorio ac ar wedyn FA Lloegr.

Carfan Cymru C
Gôl-geidwad
Alex Ramsey – Caernarfon
Ashley Morris – Y Bala

Amddiffynwyr
Callum Roberts – Y Drenewydd
Christopher Hugh – Y Barri
Emlyn Lewis – Met Caerdydd
Joel Edwards – Met Caerdudd
Kai Edwards – Llandudno
Nathan Peate – Derwyddon Cefn

Canol Cae
Aeron Edwards – Y Seintiau Newydd
Chris Venables – Y Bala
Clayton Green – Y Barri
Henry Jones – Y Bala
Jake Phillips – Nomadiaid Cei Connah
Jordan Cotterill – Y Barri
Matthew Jones – Aberystwyth
Robbie Patten – Y Barri

Blaenwyr
Adam Roscrow – Met Caerdydd
Danny Brookwell – Caernarfon
Eliot Evans – Met Caerdydd
Kayne McLaggon – Y Barri
Liam Thomas – Caerfyrddin

Lloegr C v Cymru C – yn fyw ar Facebook Sgorio nos Fercher, 19 Mawrth 2019