Cyhoeddi carfan Cymru i wynebu Trinidad a Tobago a Slofacia

Football – Wales Squad Announcement
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Sul, 17 Maw 2019, 15:54

Rheolwr Cymru, Ryan Giggs yn cyhoeddi ei garfan i herio Trinidad a Tobago mewn gêm gyfeillgar ar y Cae Ras yn Wrecsam, 20 Mawrth cyn croesawu Slofacia i Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer y gêm agoriadol o rowndiau ragbrofol Ewro 2020 ar 24 Mawrth. Bydd y ddwy gêm yn cael eu dangos yn fyw ar Sgorio, S4C.

Mae’r chwaraewr canol cae 25 oed, Will Vaulks wedi cael ei enwi yn y garfan am y tro cyntaf. Fe ymunodd â Rotherham yn 2016 ac yn gymwys i chwarae dros Gymru trwy ei Fam.

Daniel James, Abertawe a Rabbi Matondo, Schalke ymysg y chwaraewyr ifanc eraill sydd wedi cael eu cynnwys.

Mae’r rheolwr yn ffyddiog y bydd Gareth Bale yn holliach ar gyfer y gêm yn erbyn Slofacia wythnos i ddydd Sul, er iddo anafu ei bigwrn tra’n chwarae i’w glwb, Real Madrid yn y golled yn erbyn Ajax yr wythnos ddiwethaf.

James Chester, Andy King a Joe Ledley allan gydag anafiadau.

Carfan Cymru

Gôl-geidwad: Wayne Hennessey (Crystal Palace), Danny Ward (Caerlŷr), Adam Davies (Barnsley), Chris Maxwell (Charlton Athletic – ar fenthyg o Preston North End)
Amddiffynwyr: Chris Gunter (Reading), Ben Davies (Tottenham Hotspur), Neil Taylor (Aston Villa), Paul Dummett (Newcastle United), Connor Roberts (Abertawe), Tom Lockyer (Bristol Rovers), Ethan Ampadu (Chelsea), Chris Mepham (Bournemouth AFC), James Lawrence (RSC Anderlecht), Declan John (Abertawe).

Canol Cae: Ryan Hedges (Barnsley), Joe Allen (Stoke City), Aaron Ramsey (Arsenal), David Brooks (Bournemouth AFC), Matthew Smith (FC Twente – ar fenthyg Manchester City), Lee Evans (Wigan Athletic), Will Vaulks, (Rotherham United)

Ymosodwyr: Rabbi Matondo (FC Schalke 04), Dan James (Abertawe), Gareth Bale (Real Madrid), Harry Wilson (Derby County), Ben Woodburn (Sheffield United – ar fenthyg o Lerpwl), Sam Vokes (Stoke City), Tom Lawrence (Derby County), George Thomas (Scunthorpe Uniter – ar fenthyg o Gaerlŷr)


Cymru v Trinidad a Tobago – 20/03/19 – 19:25 arS4C

Cymru v Slofacia – 24/03/19 – 13:30 ar S4C