Cyhoeddi gêm fyw Cwpan Cymru: Rhydaman yn erbyn Caernarfon

rhydaman v caernarfon
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mercher, 18 Rhag 2019, 16:07

Rhydaman yn erbyn Caernarfon fydd gêm fyw Sgorio ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru JD.

Bydd Sgorio yn darlledu yn fyw o’r Rec am y tro cyntaf erioed ar nos Wener, 24 Ionawr 2020, gyda’r gic gyntaf am 8 o’r gloch.

Fe fydd hi’n dipyn o achlysur wrth i Rydaman o Gynghrair De Cymru, ail haen pyramid pêl-droed Cymru, groesawu’r Cofis, sydd ar hyn o bryd yn bedwerydd yn yr Uwch Gynghrair.

Ar ôl rhoi crasfa o bedair gôl i ddim i Gaerfyrddin o’r adran uchaf yn y drydedd rownd, bydd Rhydaman yn gobeithio am sioc arall yn y gwpan a chyrraedd Rownd yr Wyth Olaf am y tro cyntaf ers 1988.

Llwyddodd Gavin Jones i rwydo dwy gôl o fewn deng munud i’w gilydd cyn i’r Magic Daps, Lee Trundle, goroni’r cyfan gyda dwy gôl gampus arall.

Fe gyrhaeddodd Caernarfon rownd gynderfynol y gystadleuaeth yn 2017, ond gyda’r Cofis heb gyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru yn eu hanes, bydd Sean Eardley yn gobeithio am rediad da yn y gwpan eleni.

Fe sicrhaodd y Canêris eu lle yn y bedwaredd rownd ar ôl curo Goytre Utd o bedair i ddim – dwy i Darren Thomas ac un yr un i Leo Smith a Nathan Craig.

Daw’r holl gyffro yng nghwmni Dylan Ebenezer, Owain Tudur Jones, Malcolm Allen a’r tîm.