Cyhoeddi gemau byw Sgorio

DGz0iIKW0AAYtUG
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Sul, 13 Ion 2019, 13:00

Mae Sgorio, S4C a’r Gymdeithas Bêl-Droed wedi dewis y gemau byw nesaf wrth i’r frwydr ar frig Uwch Gynghrair Cymru JD hawlio’r sylw ar ddechrau ail ran y tymor.

Mae hi’n frwydr rhwng Cei Connah, Y Barri a’r Seintiau Newydd ar frig Uwch Gynghrair Cymru JD, a gyda dim ond dau bwynt yn gwahanu’r tri – a dim ond deg gêm yn weddil tan ddiwedd y tymor – bydd pob pwynt yn allweddol yn y ras am y bencampwriaeth!

Rhestr ddiweddaraf o’r gemau byw:
19/01 – Rownd Derfynol Nathaniel MG: Met Caerdydd v Cambrian a Clydach – 19:30
26/01 – Cwpan Cymru: Bangor v Caernarfon – 19:30
31/01 – Y Bala v Y Seintiau Newydd (Facebook Live) – 19:45
09/02 – Y Barri v Y Bala – 19:30
16/02 – Irn Bru: Cei Connah v Dinas Caeredin – 19:35
23/02 – Y Barri v Cei Connah – 19:30
25/02 – Caernarfon v Y Seintiau Newydd (facebook live) – 19:45
02/03 – Cwpan Cymru: Rownd yr Wyth Olaf – 19:15
09/03 – Cei Connah v Y Seintiau Newydd – 17:15