Cyhoeddi Gemau Ewro 2020

Football – UEFA Euro 2020 Draw Dublin
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Sadwrn, 30 Tach 2019, 13:25

Bydd Ryan Giggs a’i dîm yn gwybod pwy fydd eu gwrthwynebwyr ym mhencampwriaeth Ewro 2020 nos Sadwrn 30 Tachwedd mewn seremoni cyhoeddi ym Mwcarest, Rwmania.

Ar ôl sicrhau eu lle ym mhencampwriaeth Ewro 2020 wedi’r fuddugoliaeth 2-0 dros Hwngari, bydd tîm Ryan Giggs yn edrych ’mlaen i haf o deithio ar draws Ewrop.

Mae’r bencampwriaeth yn wahanol i rai’r gorffennol, gyda’r gemau wedi ei gwasgaru ar draws 12 o brif ddinasoedd y cyfandir – yn wahanol iawn i Ewro 2016, cafodd ei gynnal yn Ffrainc.

Rydym eisoes yn gwybod bydd Cymru yn cystadlu yng Ngrŵp A neu Grŵp B, rydym hefyd yn gwybod lleoliadau’r gemau.

Yng Ngrŵp A bydd y gemau yn cael ei chwarae ym mhrif ddinas yr Eidal, Rhufain a phrif ddinas Azerbaijan, sef Baku.

Bydd Gemau Grŵp B yn cael eu cynnal yn Copenhagen, Denmarc a St. Petersburg, Rwsia.

Pwy all Gymru wynebu?

Os mae Cymru yn cystadlu yng Ngrŵp A bydd Yr Eidal yn eu disgwyl yn Rhufain.

Hefyd fe all Cymru wynebu:
– Ffranc, Gwlad Pwyl, Swisdir neu Croatia o bot 2
– Portiwgal, Twrci, Awstria, Sweden, neu’r Weriniaeth Siec o bot 3.

Os bydd Cymru yn cystadlu yng nghrŵp B, bydd Cymru yn wynebu Gwlad Belg, Rwsia a Denmarc.

Ewro 2020
Bydd Pencampwriaeth ryngwladol Ewrop 2020 yn dechrau ar ddydd Gwener 12 Mehefin yn Rhufain gyda 24 tîm yn cystadlu i godi’ tlws Ewro 2020 yn Stadiwm Wembley, Llundain ar ddydd Sul 12 Gorffennaf.