Cyhoeddi trefn gemau Uwch Gynghrair Cymru 2019/20

Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mercher, 26 Meh 2019, 11:14

Yn dilyn y cyhoeddiad o drefn gemau’r tymor newydd, mae Sgorio, S4C a’r Gymdeithas Bêl-Droed wedi dewis eu tair gêm gyntaf fydd yn cael eu darlledu yn fyw ar S4C – gyda’r cyfan yn dechrau ar nos Wener 16eg o Awst.

Bydd Pen-y-bont yn dechrau eu tymor cyntaf erioed yn y gynghrair gyda gêm gartref yn erbyn Y Barri. Ac ar ôl absenoldeb o ddau dymor mae Airbus hefyd yn dechrau gyda gêm gartref, Y Bala yw’r ymwelwyr i Frychdin.

Ymhlith y gemau eraill ar y nos Wener agoriadol bydd Aberystwyth yn croesawu Caerfyrddin i Goedlan Y Parc â’r Drenewydd gartref yn erbyn Derwyddon Cefn.

Taith i Groesoswallt sy’n disgwyl Y Cofi Army wrth i Gaernarfon gwrdd â’r pencampwyr presennol, Y Seintiau Newydd.

Un gêm yn unig sydd ar y dydd Sadwrn wrth i Met Caerdydd deithio i Lannau Dyfrdwy i wynebu Cei Connah.

Fe fydd y gynghrair yn hollti’n ddau ar yr 17eg o Ionawr wedi’r gemau lleol traddodiadol dros ŵyl y Nadolig.

Rhestr gemau llawn Uwch Gynghrair Cymru 2018/19

Gemau byw Sgorio:

16/08 – Pen-y-bont v Y Barri – (S4C)
23/08 – Caerfyrddin v Y Drenewydd – (S4C)
30/08 – Airbus UK v Caernarfon – (S4C)