Cymru 1-0 Belarws

Football – International Friendly – Wales v Belarus
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 9 Medi 2019, 23:00

Serennodd Daniel James i Gymru unwaith eto wrth iddyn nhw drechu Belarws o 1-0 mewn gêm gyfeillgar yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae’r asgellwr 21-oed yn cael dechrau tymor i’w gofio – i’w glŵb a’i wlad – yn brif sgoriwr i Manchester United ers ymuno yn yr hâf am ffî o 15 miliwn o Abertawe.

Roedd pum newid i dîm Ryan Giggs wynebodd Azerbaijan nos Wener, gyda Ben Davies, Jonny Williams a Danny Ward i mewn a Kieffer Moore a Joe Morrell yn ennill eu capiau cyntaf.

Daeth yr unig gôl o’r gêm wedi 17 o funudau. Fe lwyddodd Jonny Williams i ennill y bêl a rhedeg o’r llinell hanner i ryddhau Dan James lawr yr asgell chwith. James yn gwyro’r bêl yn berffaith o 18 llath, heibio’r golwr Maksim Plotnikov ac i waelod isa’r rhwyd.

Cafodd Cymru sawl cyfle i ddyblu’r fantais yn yr ail hanner, gyda Harry Wilson yn croesi’r bêl ond iddi daro’r postyn a Moore yn penio un yn llydan.

Yr eilydd, Gareth Bale fethodd cyfle gorau’r noson, gyda Wilson yn bwydo’r bêl ar blât i’r cwrt cosbi, ond y bêl yn tanio dros y trawst.

Mi fydd Cymru yn herio Slofacia oddi cartref ymhen mis cyn teithio i Croatia tridiau wedyn yn y ras i gyrraedd Euro 2020.

Sylwadau’r rheolwr, Ryan Giggs