Cymru 1-0 Slofacia

P190324_413-Wales_Slovakia (1)
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Sul, 24 Maw 2019, 16:32

Daniel James yn dechrau ei gêm gyntaf ac yn sgorio ei gôl gyntaf i Gymru wrth i dîm Ryan Giggs ennill eu gêm agoriadol yn eu ymgyrch ragbrofol i gyrraedd Ewro 2020.

Daniel James yn dechrau ei gêm gyntaf ac yn sgorio ei gôl gyntaf i Gymru wrth i dîm Ryan Giggs ennill eu gêm agoriadol yn eu hymgyrch ragbrofol i gyrraedd Ewro 2020.
O flaen torf o 31,617 llwyddodd tîm Ryan Giggs i ennill eu gêm gyntaf yn eu hymgyrch ragbrofol i gyrraedd cystadleuaeth Ewro 2020.

Sgoriodd Daniel James ei gôl gyntaf i Gymru wedi pum munud o chwarae, yr asgellwr yn ennill y bêl ar ochr y cwrt cosbi ac ei ergyd nerthol yn hedfan heibio Dúbravka, golwr Slofacia.

Roedd rhaid galw ar Wayne Hennessey yn yr ail hanner wrth iddo arbed peniad Ďuriš yn dda i gadw Cymru ar y blaen.

Er i Slofacia chwarae’n dda tuag at ddiwedd y gêm, roedd amddiffyn Cymru yn gadarn gan lwyddo i gadw’r llechen lan.

Bydd Cymru yn teithio i Osijek, Croatia ar gyfer eu gêm ragbrofol nesaf ar ddydd Sadwrn, 8fed Mehefin.