Cymru 1-0 Trinidad a Tobago

Football – International Friendly – Wales v Trinidad and Tobago
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mercher, 20 Maw 2019, 22:01

Ben Woodburn yn sgorio yn amser cafodd ei ganiatáu am anafiadau wrth i Gymru guro Trinidad a Tobago 1-0 mewn gêm gyfeillgar ar Y Cae Ras. Bydd Cymru yn dechrau eu hymgyrch ragbrofol ar gyfer Ewro 2020 prynhawn Sul yn erbyn Slofacia yn Stadiwm Dinas Caerdydd, y gêm yn fyw ar S4C am 1:30.

O flaen torf o 10,326 ar y Cae Ras cafodd Ryan Giggs gyfle i arbrofi gyda’r 11 dechreuodd y gêm cyn i ymgyrch ragbrofol Ewro 2020 Cymru ddechrau dydd Sul yn erbyn Slovakia.

Dyma oedd y tro cyntaf i Gymru chwarae yn Wrecsam ers iddyn nhw drechu Norwy 3-0 yn Chwefror 2008.

Gyda’r enwau cyfarwydd wedi ei gorffwyso, roedd cyfle i Will Vaulks ddechrau ei gêm gyntaf i Gymru a chyfle i rai o’r sêr ifanc ddenu sylw’r rheolwr cyn gemau rhagbrofol Ewro 2020. Cafodd Adam Davies

Roedd yr hanner cyntaf yn un sâl i Gymru, y chwaraewyr yn amlwg ddim yn gyfarwydd â’i gilydd a’r cyfloed yn brin i’r naill dîm.

Roedd rhaid i Chris Gunter atal ergyd Aubrey David oddi ar linell gôl Cymru i gadw’r gêm yn ddi-sgôr.

George Thomas cafodd y cyfle gorau i Gymru wedi awr o chwarae, ei beniad yn taro cefn y rhwyd ond i’r llumanwr nodi ei fod yn chamsefyll.

Gyda’r gêm yn dod i’w derfyn, llwyddodd Ben Woodburn i benio croesiad Will Vaulks dros y llinell.

Cymru XI: Ward; Gunter, Williams, Dummett, Taylor; Vaulks, Evans; Hedges, Thomas, Woodburn, Roberts.

Trinidad & Tobago XI: Phillip, David, Bateau, Cyrus, Hyland, Plaza, Garcia, Lewis, Hodge, George, Paul.