Cymru 1-1 Croatia

Football – UEFA Euro 2020 Qualifying Round Group E – Wales v Croatia
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Sul, 13 Hyd 2019, 22:44

Pwynt a record ddiguro gartref Cymru yn ymgyrch ragbrofol Ewro2020 yn parhau. Bydd rhaid i dîm Ryan Giggs ennill y ddwy gêm sy’n weddill yn eu grŵp rhagbrofol a gobeithio fod Slofacia yn colli un o’u gemau nhw i gamu ymlaen i Ewro 2020.

O flaen torf o dros 31,000, llwyddodd Gareth Bale i achub pwynt a chadw’r freuddwyd o gyrraedd Ewro 2020 yn fyw i Gymru.

Fe gadwodd Ryan Giggs ei ffydd yn yr XI ddechreuodd yn erbyn Slovakia, gyda Kieffer Moore yn arwain y llinell flaen a Joe Rodon a Tom Lockyer yng nghanol yr amddiffyn .
Sgoriodd Croatia gyntaf, ergyd nerthol Nikola Vlašić o ochr y cwrt cosbi yn hedfan i gornel isa’r gôl gan guro Wayne Hennessey.

Fe aeth y gêm mewn i gyfnod tawel, ond gydag eiliadau o’r hanner cyntaf yn weddill sgoriodd Gareth Bale i unioni’r sgôr ar yr egwyl.
Gwaith gwych gan Ben Davies i adennill y bêl a bwydo prif sgoriwr holl hanes Cymru yn y cwrt cosbi, 1-1!

Er cafodd Daniel James gyfle yn yr ail hanner gan orfodi Livaković i arbed ei ergyd nerthol, prin oedd y cyfleoedd i’r naill dim.


Bydd Cymru yn teithio i Azerbaijan ar nos Sadwrn 16 Tachwedd yn gwybod fod rhaid ennill y gêm er mwyn cadw’r freuddwyd o gyrraedd ewro 2020 yn fyw.