Cymru a’r Wal Goch: Y Daith i Euro 2020

social media clips-_40
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Gwener, 27 Rhag 2019, 13:08

Rhaglen arbennig i ddathlu llwyddiant tîm pêl-droed Cymru yn cyrraedd Euro 2020. Nos Fercher, 1af Ionawr am 19:00 ar S4C

Ar ôl y gorfoledd o gyrraedd Euro 2016, roedd y daith i Euro 2020 yn droellog ond er gwaethaf yr amheuon am y rheolwr, Ryan Giggs, fe lwyddodd Cymru i gyrraedd y rowndiau terfynol yn y modd mwyaf dramatig, drwy ennill y gêm olaf yn erbyn Hwngari.

Bydd y rhaglen hon yn olrhain stori’r ymgyrch rhagbrofol cyffrous drwy gyfuniad o atgofion cefnogwyr, archif cyfoethog a chyfraniadau gan dîm Sgorio.

Cymru a’r Wal Goch: Y Daith i Euro 2020, nos Fercher 1af Ionawr am 19:00