Cymru v Belarws – yn fyw ar S4C

belarws
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 9 Medi 2019, 15:30

Gêm gyfeillgar ryngwladol rhwng Cymru a Belarws yn fyw nos Lun (09/09) am 19:25, gyda’r gic gyntaf am 19:45. Bydd Ryan Giggs yn siwr o brofi ei garfan gyfan yn y gêm hon, yn erbyn y wlad greodd embaras i Gymru yn Minsk bron i ugain mlynedd yn ôl. Gyda dwy gêm ragbrofol allweddol ar y gorwel mewn mis, bydd pwynt i’w brofi gan aelodau’r garfan sy’n ceisio brwydro am le’n y tîm cyntaf.

Y cyfan yn fyw yng nghwmni Dylan Ebenezer, Nic Parry a’r cyn-chwaraewyr rhyngwladol John Hartson, Gwennan Harries, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen. Cic gyntaf 7.45.