Cymru v Hwngari

79197F35-562E-4861-B355-F5D75F8E6602
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mawrth, 19 Tach 2019, 11:09

Mae’n syml, curo Hwngari ac mae Cymru yn cadarnhau eu lle yn Euro 2020! Cymru v Hwngari yn fyw ar S4C nos Fawrth am 19:25 gyda’r gic gyntaf am 19:45.

Wyth gêm mewn wyth mis, dyna oedd yr her i Ryan Giggs a’i dîm wrth geisio cyrraedd Euro 2020.

Bydd y cyfan yn dod i ben yn erbyn Hwngari, y tîm gurodd Cymru ym mis Mehefin.

A fydd y chwiban olaf yn arwyddo taith syth i’r rowndiau terfynol i Gymru neu a fydd y Wal Goch yn edrych i gyfeiriad y gemau ail gyfle?
Enwau mawr ar gael i Gymru megis Joe Allen ac ambell chwaraewr allweddol Hwngari yn colli allan.

Ni chyrhaeddodd Giggs rowndiau terfynol fel chwaraewr, a fydd yn cyrraedd ei un cyntaf fel rheolwr?