Sgoriodd Aaron Ramsey ddwywaith wrth i Gymru guro Hwngari 2-0 yn Stadiwm Dinas Caerdydd i sicrhau eu lle ym mhencampwriaeth Ewro 2020 haf nesa’.
Yn syml, roedd rhaid i Gymru guro Hwngari yn eu gêm olaf yng ngrŵp rhagbrofol Ewro 2020 os am unrhyw siawns o gyrraedd pencampwriaeth Ewropa haf nesa’.
Fe lwyddodd tîm Ryan Giggs i’w wneud gyda’r ddwy gôl yn dod gan Aaron Ramsey – roedd yn dechrau ei gêm gyntaf yn yr ymgyrch ragbrofol hon.
Fe lwyddodd Aaron Ramsey i agor y sgorio i Gymru wedi 15 munud, croesiad perffaith i’r cwrt chwech gan Gareth Bale a seren Juventus yn penio i gefn y rhwyd.
Er fod Cymru ar y blaen, ac yn rheoli’r gêm, roedd rhaid i Wayne Hennessey fod yn effro i ymdrechion Hwngari – dau arbediad cyflym i gadw Cymru ar y blaen cyn yr egwyl.
Fe lwyddodd Hennessey i ddod yn gyfartal â record llechen lân Neville Southall yn y gêm, gan gadw 34 llechen lân mewn 89 cap.
Sgoriodd Ramsey ei ail o’r gêm wedi’r egwyl sicrhau’r fuddugoliaeth a lle’r tîm cenedlaethol ym mhencampwriaeth Ewro’r haf nesaf.
Bydd y seremoni cyhoeddi grwpiau Ewro 2020 yn digwydd ar ddydd Sadwrn 30 Tachwedd am 17:00.