Dwy gêm allweddol yn y Chwech Uchaf

cei v tn s

Cei Connah angen curo i gadw’r pwysau ar y pencampwyr…

Nos Wener, 15 Mawrth

Cei Connah v Y Drenewydd | Nos Wener – 19:45
Yn dilyn y siom o golli yn erbyn Y Seintiau Newydd y penwythnos diwethaf fe all Cei Connah ddringo yn ôl i’r copa nos Wener.

Byddai buddugoliaeth yn mynd a Nomadiaid Andy Morrison ddau bwynt yn glir ar y brig ond byddai gan Y Seintiau ddwy gêm wrth gefn.

Ar ôl trechu’r Barri 3-0 brynhawn Sadwrn a chwalu gobeithion y Dreigiau o sicrhau’r bencampwriaeth, mae’r Drenewydd nawr yn llygadu’r 3ydd safle.

Mae Cei Connah ar rediad o bum gêm heb golli yn erbyn Y Drenewydd (ennill 4, cyfartal 1).

Gemau diwethaf:
Y Drenewydd 1-2 Cei Connah (02/02/19)
Y Drenewydd 1-1 Cei Connah (21/11/18)
Cei Connah 3-1 Y Drenewydd (14/09/18)

Rhediad diweddar yn UGC:
Cei Connah: ✅✅ ➖✅❌
Y Drenewydd: ❌❌✅➖✅

Dydd Sadwrn, 16 Mawrth

Y Barri v Y Bala | Dydd Sadwrn – 16:00
Roedd Y Bala’n ennill 0-1 yn Y Barri fis diwethaf pan ddiffoddodd y llifoleuadau, a bu rhaid gohirio’r gêm a’i ail-threfnu ar gyfer y penwythnos hwn.

Roedd hi’n golled swmpus a chostus i’r Barri yn erbyn Y Drenewydd y penwythnos diwethaf gan fod y Dreigiau bellach saith pwynt o dan y Seintiau Newydd.

Os am unrhyw obaith o aros yn y ras am y bencampwriaeth bydd rhaid i’r Barri drechu’r Bala am y trydydd tro’r tymor hwn.

Mae’r Bala ar rediad sâl iawn yn ddiweddar, wedi colli chwech o’u wyth gêm ddiwethaf, ac heb gadw llechen lân yn UG Cymru ers mis Tachwedd (12 gêm).

Gemau diwethaf:
Y Bala 0-1 Y Barri (27/10/18)
Y Barri 3-2 Y Bala (19/08/18)

Rhediad diweddar yn UGC:
Y Barri: ✅❌➖➖❌
Y Bala: ❌❌ ➖❌❌