Gêm ddarbi Sir Gar yn fyw ar S4C

cwpan cymru
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Iau, 5 Rhag 2019, 17:16

Gêm fyw o drydedd rownd Cwpan Cymru JD, wrth i Lee Trundle a Rhydaman herio Caerfyrddin. Am y tro cyntaf erioed, bydd Rhydaman yn cael dangos yn fyw ar Sgorio, gyda’r Magic Daps ei hun ac Andy Robinson, cyn-Alarch arall, yn y garfan. Mae Caerfyrddin wedi cael tymor anodd ond bellach gyda chyn-Alarch arall fel rheolwr, Kristian O’Leary, bydd y tîm cartref yn gobeithio ennill Darbi Sir Gâr.

Y cyfan yn fyw yng nghwmni Dylan Ebenezer, Sion Meredith, Malcolm Allen, Mike Davies a Nicky John. Cic gyntaf am 20:00