Gemau Cymru yn fyw ar Sgorio

fixtures cymru azer
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mawrth, 3 Medi 2019, 13:37

Bydd y gêm ragbrofol Ewro 2020 rhwng Cymru ac Azerbaijan o Stadiwm Dinas Caerdydd yn fyw ar S4C nos Wener (06/09/19) am 19:25, gyda’r gêm gyfeillgar rhwng Cymru a Belarws hefyd yn fyw ar S4C nos Lun am 19:25.

Cymru v Azerbaijan, yn fyw o Stadiwm Dinas Caerdydd
Nos Wener 6ed o Fedi am 19:25, gyda’r gic gyntaf am 19:45.

Gêm ragbrofol Euro 2020 rhwng Cymru ac Azerbaijan yn fyw. Ar ôl dechrau addawol i’r ymgyrch, mae dwy golled yn y ddwy gêm ddiwethaf wedi rhoi gobeithion Cymru o gyrraedd Euro 2020 yn y fantol o ddifrif. Wrth wynebu Azerbaijan, tîm gwana’r grŵp, bydd dim llai na buddugoliaeth yn dderbyniol i Ryan Giggs a’i garfan.

Y cyfan yn fyw yng nghwmni Dylan Ebenezer, Nic Parry a’r cyn-chwaraewyr rhyngwladol John Hartson, Gwennan Harries, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen.

Cymru v Belarws, yn fyw o Stadiwm Dinas Caerdydd
Nos Lun 9fed o Fedi am 19:25, gyda’r gic gyntaf am 19:45.

Gêm gyfeillgar ryngwladol rhwng Cymru a Belarws yn fyw. Bydd Ryan Giggs yn siŵr o brofi ei garfan gyfan yn y gêm hon, yn erbyn y wlad greodd embaras i Gymru yn Minsk bron i ugain mlynedd yn ôl. Gyda dwy gêm ragbrofol allweddol ar y gorwel mewn mis, bydd pwynt i’w brofi gan aelodau’r garfan sy’n ceisio brwydro am le yn y tîm cyntaf.

Y cyfan yn fyw yng nghwmni Dylan Ebenezer, Nic Parry a’r cyn-chwaraewyr rhyngwladol John Hartson, Gwennan Harries, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen.