Gemau Gŵyl San Steffan

c15

Gwledd o bêl-droed ar ddydd San Steffan gyda chwe gêm i’w chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru.

Dydd Iau, 26 Rhagfyr

Caerfyrddin v Pen-y-bont | Dydd Iau – 14:30
Yn y frwydr i osgoi’r cwymp bydd y ddau glwb isaf yn y gynghrair yn cwrdd ddwywaith mewn tyngedfennol dros yr Ŵyl.

Dyw’r clybiau heb gwrdd mewn gêm gystadleuol ers i Ben-y-bont guro Caerfyrddin yng Nghwpan y Gynghrair dros bum mlynedd yn ôl (Cfin 2-3 Pen w.a.y).

Tydi Caerfyrddin heb ennill gêm gartref y tymor yma, na chwaith wedi sgorio yn eu pum gêm ddiwethaf, ond byddai buddugoliaeth ddydd Iau yn eu codi uwchben Pen-y-bont ac oddi ar waelod y tabl.

Record cynghrair diweddar:
Caerfyrddin: ✅❌❌❌❌
Pen-y-bont: ✅❌➖❌❌

Cei Connah v Airbus UK | Dydd Iau – 14:30
Mae Cei Connah yn ôl o fewn pwynt i’r Seintiau Newydd yn dilyn buddugoliaeth y Nomadiaid yn erbyn Y Bala y penwythnos diwethaf (Cei 2-1 Bala).

Daeth Airbus a rhediad o saith colled yn olynol i ben pan gafon nhw gêm gyfartal yn erbyn Derwyddon Cefn ddydd Sadwrn (Air 1-1 Cefn).

Mae Cei Connah wedi ennill eu saith gêm ddiwethaf yn erbyn Airbus, yn cynnwys buddugoliaeth 5-1 yng Nghwpan Nathaniel MG yn gynharach y tymor hwn.

Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ✅✅➖❌✅
Airbus UK: ❌❌❌❌➖

Derwyddon Cefn v Y Seintiau Newydd | Dydd Iau – 14:30
Mae hi am fod yn ddwy gêm heriol i Huw Griffiths a’i griw dros yr Ŵyl, yn enwedig gan fod y Seintiau wedi colli eu gêm ddiwethaf ac yn benderfynol o wneud yn iawn am eu cam dros y gemau nesaf.

Dyw’r Derwyddon ond wedi colli un o’u 10 gêm ddiwethaf, ond dim ond un pwynt sy’n eu gwahanu nhw a’r Drenewydd yn y ras am y Chwech Uchaf.

Mae 12 blynedd wedi mynd heibio ers y tro diwethaf i’r Derwyddon guro’r Seintiau Newydd yn Uwch Gynghrair Cymru.

Record cynghrair diweddar:
Derwyddon Cefn: ❌✅✅✅➖
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅❌

Y Drenewydd v Aberystwyth | Dydd Iau – 14:30
Pedair gêm i fynd tan yr hollt ac mae’r Drenewydd wedi codi i fod o fewn pwynt i’r Chwech Uchaf ar ôl ennill tair gêm gynghrair yn olynol.

Mae Aberystwyth yn parhau i aros yn beryglus o agos i’r timau isaf ar ôl colli pedair o’u pum gêm gynghrair ddiwethaf.

Y Drenewydd enillodd y ddwy gêm rhwng y ddau dîm dros gyfnod y Nadolig y flwyddyn diwethaf.

Record cynghrair diweddar:
Y Drenewydd: ✅❌✅✅✅
Aberystwyth: ❌❌❌✅❌

Y Barri v Met Caerdydd | Dydd Iau – 14:30
Dyw Met Caerdydd yn sicr ddim allan o’r ras am y Chwech Uchaf gan eu bod ond bedwar pwynt y tu ôl i’r Derwyddon yn dilyn eu buddugoliaeth wych yn erbyn Y Seintiau Newydd y penwythnos diwethaf.

Mae’r Barri wedi llithro o’r ras am y bencampwriaeth ar ôl colli chwech o’u wyth gêm ddiwethaf, ond mi roedd na achos dathlu i’r Dreigiau nos Wener gan iddyn nhw ennill oddi cartref yn erbyn Aberystwyth.

Er bod dim llawer o deithio i’w wneud, mae mantais mawr gan Y Barri, gan mae’r tîm cartref sydd wedi ennill y bum gêm ddiwethaf rhwng y clybiau yma.

Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ❌✅❌❌✅
Met Caerdydd: ✅❌❌❌✅

Caernarfon v Y Bala | Dydd Iau – 17:15 (S4C)
Dyw Caernarfon heb golli gartref yn Uwch Gynghrair Cymru y tymor hwn gan ennill eu saith gêm gynghrair ddiwethaf ar yr Oval.

Dim ond triphwynt sy’n gwahanu’r Bala a’r brig, ond byddai colled ar yr Oval yn golygu y gallai Hogiau’r Llyn lithro mor belled a’r 5ed safle.

Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ✅❌✅✅✅
Y Bala: ✅✅✅✅❌

Bydd uchafbwyntiau gemau’r penwythnos i’w gweld ar Sgorio ddydd Llun am 5:30 ar S4C.