Gemau nos Fawrth

NCM_3472

Ar ôl cystadlu yng Nghwpan Her yr Alban dros y penwythnos bydd Y Seintiau Newydd a Chei Connah yn troi eu sylw yn ôl at y Cymru Premier nos Fawrth.

Nos Fawrth, 10 Medi

Cei Connah v Derwyddon Cefn | Nos Fawrth – 19:45
Llwyddodd Cei Connah i drechu Cove Rangers yn nhrydedd rownd Cwpan Her yr Alban ddydd Sadwrn diolch i gic rydd gyfrwys Michael Bakare.

Mae Cei Connah yn un o dri chlwb sydd heb golli gêm gynghrair hyd yma, ond ar ôl tair gêm gyfartal allan o bedair, mae’r Nomadiaid yn y 5ed safle.

Mae dros deng mlynedd wedi mynd heibio ers i’r Derwyddon ennill oddi cartref yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy (Tachwedd 2008).

Record cynghrair:
Cei Connah: ➖➖➖✅
Derwyddon Cefn: ➖✅➖❌

Y Seintiau Newydd v Y Drenewydd | Nos Fawrth – 19:45
Colli ar giciau o’r smotyn oedd hanes y Seintiau yn erbyn Stenhousemuir ddydd Sadwrn, a’r ffordd orau i roi’r siom y tu ôl iddyn nhw byddai curo’r Drenewydd a dringo i frig y cynghrair am y tro cynta’r tymor hwn.

Gall Y Drenewydd gymryd hyder o’r ffaith eu bod wedi ennill ddwywaith yn Neuadd y Parc yn y tair blynedd diwethaf.

Ond mae’r Seintiau wedi ennill eu tair gêm ddiwethaf yn erbyn y Drenewydd yn gwbl gyfforddus (YSN 4-0 Dre, YSN 5-0 Dre, Dre 6-0 YSN) – os yw’r patrwm yn parhau yna 7-0 fydd hi i’r pencampwyr nos Fawrth!

Record cynghrair:
Y Seintiau Newydd: ✅❌✅✅
Y Drenewydd: ➖✅➖❌

Bydd uchafbwyntiau’r ddwy gêm i’w gweld ar wefan Sgorio brynhawn Mercher, 11 Medi.