Gemau nos Fawrth

A34I4677e

Y Derwyddon a’r myfyrwyr yn brwydro’n y ras am y Chwech Uchaf, a’r Seintiau Newydd yn anelu am y copa yn Uwch Gynghrair Cymru.

Nos Fawrth, 3 Rhagfyr

Derwyddon Cefn v Met Caerdydd | Nos Fawrth – 19:45
Mae’r Derwyddon wedi ennill pump o’u chwe gêm ddiwethaf gan gamu i’r Chwech Uchaf, a daeth eu hunig golled yn ystod y rhediad hwnnw oddi cartref yn erbyn Met Caerdydd (Met 2-1 Cefn)

Honno oedd buddugoliaeth gyntaf y myfyrwyr ers mis Medi, a’u hunig buddugoliaeth yn eu naw gêm ddiwethaf.

Y tîm cartref sydd yn tueddu i ennill y gemau rhwng y ddau dîm yma – y tîm oddi cartref heb ennill dim un o’r saith gêm ddiwethaf rhwng y clybiau.

Record cynghrair diweddar:
Derwyddon Cefn: ✅✅✅❌✅
Met Caerdydd: ❌➖❌✅❌

Y Seintiau Newydd v Caerfyrddin | Nos Fawrth – 19:45
Ar ôl dod yn hafal â’r record am y fuddugoliaeth fwyaf erioed yn holl hanes UG Cymru y penwythnos diwethaf (Air 0-12 YSN), mae’r Seintiau nawr yn gobeithio manteisio ar y cyfle i ddringo i frig y tabl.

Y Seintiau Newydd sydd â’r record ymosodol orau’n y gynghrair (3.2 gôl y gêm), a bydd cydradd brif sgoriwr y cynghrair, Greg Draper yn gobeithio ychwanegu at ei gyfanswm (13 gôl) gan iddo sgorio chwe gôl yn ei bedair gêm ddiwethaf yn erbyn Caerfyrddin.

Dyw’r Hen Aur heb ennill yng Nghroesoswallt ers saith blynedd (Tachwedd 2012), ac mae’r pencampwyr wedi sgorio 25 o goliau yn eu pum gêm ddiwethaf yn erbyn Caerfyrddin (pum gôl y gêm ar gyfartaledd).

Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ✅✅➖✅✅
Caerfyrddin: ➖❌❌✅❌

Bydd uchafbwyntiau’r gemau i’w gweld ar wefan Sgorio brynhawn Mercher.