Giggs yn cyhoeddi’r garfan i wynebu Azerbaijan a Belarws

Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mercher, 21 Awst 2019, 13:01

Mae Ryan Giggs wedi cyhoeddi’r chwaraewyr fydd yng ngharfan Cymru i herio Azerbaijan a Belarws fis nesaf – a dyw’r Capten, Ashley Williams ddim wedi ei gynnwys.

Mae’r amddiffynnwr 34 oed, sydd â 86 cap dros Cymru, sydd wedi bod heb glwb ers cael ei ryddhau gan Everton dros yr haf ar ôl treulio’r tymor diwethaf ar fenthyg yn Stoke.

Mae adroddiadau ei fod ar fin ymuno â Bristol City yn y Bencampwriaeth.

Mae’r enwau mawr eraill fel Aaron Ramsey, Ben Davies a Ethan Ampadu oll yn rhan o’r garfan o 26.

Fe gadarnhaodd Giggs tra’n siarad i’w wasg heddiw mai Bale, sydd ar gael ar ôl adennill ei le yn nhîm Real Madrid fydd yn capteinio Cymru yn lle Ashley Williams yn erbyn Azerbaijan.

Does dim lle i Paul Dummett ymhlith yr amddiffynwyr, na’r asgellwr Rabbi Matondo a hynny oherwydd anaf.

Mae tri chwaraewr yn y garfan sydd heb ennill eu cap cyntaf hyd yn hyn – yr amddiffynnwr canol Joe Rodon, y chwaraewr canol cae Joe Morrell a’r ymosodwr Kieffer Moore.

Bydd Cymru’n croesawu Azerbaijan i Stadiwm Dinas Caerdydd ar nos Wener 6 Medi fel rhan o’u hymgyrch i gyrraedd Euro 2020 – a’r cyfan yn fyw ar S4C.

Mae Cymru chwe phwynt y tu ôl i Hwngari ar y brig, triphwynt y tu ôl i Croatia a Slofacia ac mae ganddyn nhw gêm wrth gefn dros eu gwrthwynebwyr.

Y garfan yn llawn:

Gôl-geidwaid

Wayne Hennessey (Crystal Palace), Danny Ward (Caerlŷr), Adam Davies (Stoke)

Amddiffynwyr

Chris Gunter (Reading), Ben Davies (Tottenham Hotspur), Neil Taylor (Aston Villa), Connor Roberts (Abertawe), Ethan Ampadu (Leipzig – ar fenthyg o Chelsea), Chris Mepham (Bournemouth), Tom Lockyer (Charlton), James Lawrence (Anderlecht), Joe Rodon (Abertawe).

Canol cae

Aaron Ramsey (Juventus), Joe Allen (Stoke), Jonny Williams (Charlton), Harry Wilson (Bournemouth – ar fenthyg o Lerpwl), Matthew Smith (Queens Park Rangers – ar fenthyg o Manchester City), Daniel James (Manchester United), Will Vaulks (Caerdydd), Joe Morrell (Lincoln – ar fenthyg o Bristol City).

Ymosodwyr

Gareth Bale (Real Madrid), Sam Vokes (Stoke), Tom Lawrence (Derby County), Ben Woodburn (Oxford United – ar fenthyg o Lerpwl), Ryan Hedges (Aberdeen), Kieffer Moore (Wigan).