Gôl hwyr Bale yn achub Cymru

Football – UEFA Euro 2020 Qualifying Round Group E – Wales v Azerbaijan
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Gwener, 6 Medi 2019, 21:27

Gôl hwyr gan Gareth Bale yn cadw gobeithion Cymru o gyrraedd Ewro 2020 yn fyw.

Tîm Ryan Giggs yn dringo i’r trydydd safle yng ngrŵp E gemau rhagbrofol Ewro 2020 yn dilyn buddugoliaeth o 2-1 dros Azerbaijan.

Fe aeth Cymru ar y blaen diolch i gôl i’w rwyd ei hun gan Pavlo Pashayev wedi 26 o funudau.

Y capten, Gareth Bale yn taro ergyd o bell a’r bêl yn gwyro oddi ar gefn yr amddiffynnwr ac i gornel isaf y rhwyd.

Llwyddodd Azerbaijan i unioni’r sgôr cyn yr awr.

Camgymeriad gan Neil Taylor ger y llinell hanner a Mahir Emreli yn manteisio ar flerwch Wayne Hennessey yn y gôl a rhwydo i’r ymwelwyr.

Gyda dim ond saith munud yn weddill ar y cloc, yr arwr o’r noson, Bale yn llwyddo i benio’r bêl heibio Salahat Agayev ac i gefn y rhwyd i sgorio’r gôl hollbwysig i Gymru.