Goliau hwyr yn cosbi clybiau Cymru yn Ewrop

65004039_2486142628102793_8563010236590325760_o
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Gwener, 12 Gor 2019, 09:49

Wythnos anodd i glybiau Uwch Gynghrair Cymru yng nghystadlaethau Ewrop, Y Seintiau’n ildio dwy gôl hwyr mewn gêm gyfartal 2-2 yn erbyn Feronikeli a thor calon i Gei Connah gan golli 1-2 yn erbyn Kilmarnock gyda pheniad ola’r gêm.

Bydd Y Seintiau hefo digon i’w wneud yn ail gymal rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr wythnos nesaf yn Cosofo ar ôl ildio dwy gôl hwyr mewn gêm gyfartal 2-2 yn erbyn Feronikeli.

Cafodd pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru 80 munud delfrydol yn y cymal cyntaf, i fyny 2-0 ac yn edrych yn hollol gyfforddus i ennill y gêm diolch i goliau Greg Draper ac Aeron Edwards, ond llwyddodd pencampwyr Cosofo sgorio gyda munudau yn weddill o’r gêm.

Mevlan Zeka yn penio gôl oddi cartref holl bwysig heibio Paul Harrison cyn i Simon Spender ildio cic o’r smotyn yn amser wedi ei ganiatau ar gyfer anafiadau.

Sgoriodd Astrit Falzliu o’r smotyn i’r ymwelwyr, gyda’r tîm o Cosofo yn sicrhau dwy gôl oddi cartref holl bwysig cyn yr ail gymal wythnos nesaf.

Colli yn y funud olaf oedd hanes Cei Connah nos Iau yn erbyn Kilmarnock o’r Alban yng nghymal cyntaf rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Europa.

Fe aeth Cei Connah ar y blaen diolch i gôl I’w rwyd ei hun gan amddiffynnwr Kilmarnock Greg Taylor, ond i Callum Roberts ildio cic o’r smotyn ar ei ymddangosiad cyntaf i’r clwb.

Sgoriodd Eamonn Brophy o’r smotyn i unioni’r sgôr, a gydag eiliadau ar ôl yn y gêm sgoriodd Stuart Findlay gan benio cic gornel heibio Louis Brass i sicrhau’r fuddugoliaeth i’r Albanwyr.

Bydd hi’n dipyn o her i Gei Connah ar Barc Rygbi, Kilmarnock nos Iau nesaf yn yr ail gymal gan gofio fod Kilmarnock wedi gorffen yn y drydedd safle yn Uwch Gynghrair yr Alban tymor diwethaf.