Gwrthwynebwyr posib Met Caerdydd a’r Barri

European Football – UEFA Europa League – Final – Liverpool FC v Sevilla FC
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Mawrth, 11 Meh 2019, 08:22

Ar ddydd Mawrth, 11 Mehefin fe fydd yr enwau’n cael eu dethol ar gyfer rowndiau rhagbrofol Ewrop 2019/20.

Bydd Y Barri a Met Caerdydd yn darganfod pwy fydd yn eu herio yn rownd gynragbrofol Cynghrair Europa gyda’r cymal cyntaf i’w chwarae ar 27 Mehefin, a dyma olwg ar y saith clwb gall ddod allan o’r het…

La FioritaSan Marino
Ar ôl ennill Cynghrair San Marino (Campionato Sammarinese di Calcio) yn 2017/18 fe orffennodd La Fiorita yn ail tu ôl i Tre Penne yn 2018/19.

Mae Società Polisportiva La Fiorita wedi chwarae wyth rownd yn Ewrop ac wedi colli bob un o’r rowndiau hynny.

FC Progrès NiederkornLwcsembwrg
Clwb sy’n dathlu eu canmlwyddiant eleni ar ôl gorffen yn 4ydd yn Uwch Gynghrair Lwcsembwrg.

Fe drechon nhw Rangers dros ddau gymal yn 2017/18 a mynd ymhellach nac erioed yng Nghynghrair Europa y tymor diwethaf wrth gyrraedd y drydedd rownd ragbrofol cyn colli yn erbyn Ufa o Rwsia.

CliftonvilleGogledd Iwerddon
Tîm o Brydain sydd â digon o brofiad Ewropeaidd – 32 gêm yn Ewrop (ennill 4, cyfartal 6, colli 22).

Gorffennodd Cliftonville yn 5ed yn Uwch Gynghrair Gogledd Iwerddon a selio eu lle yn Ewrop trwy’r gemau ail gyfle.

EuropaGibraltar
Mae Europa wedi gorffen yn ail yn eu cynghrair ac wedi codi Cwpan y Graig yn 2019 (Gibraltar Rock Cup).

Enillodd YSN 4-3 dros ddau gymal yn erbyn Europa yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr yn 2017/18.

NSÍ RunavíkYnysoedd Ffaro
Gorffennodd NSÍ Runavík yn ail yng nghynghrair Ynysoedd Ffaro yn 2018 (Betri deildin menn) ac mae nhw bellach yn yr ail safle hanner ffordd trwy’r tymor presennol.

Dyw’r clwb heb ennill dim un o’u 12 gêm rownd flaenorol yn Ewrop gan golli 12-5 dros ddau gymal yn erbyn Hibernian y tymor diwethaf.

KÍ KlaksvíkYnysoedd Ffaro
Ar ôl gorffen yn 4ydd yn 2018 mae KÍ bellach ar frig tabl Ynysoedd Ffaro y tymor hwn.

Y tymor diwethaf oedd y tro cyntaf i’r clwb ennill rownd yn Ewrop pan guron nhw Birkirkara o Malta yn rownd gynragbrofol Cynghrair Europa.

PrishtinaKosovo
Prishtina orffennodd yn ail yn Superliga Kosovo y tymor diwethaf gan sicrhau eu lle’n Ewrop am y trydydd tymor yn olynol.

Fe enillon nhw 6-1 dros ddau gymal yn erbyn Europa y tymor diwethaf gan ddod y tîm cyntaf o Kosovo i ennill gêm Ewropeaidd.