Gwrthwynebwyr posib Y Seintiau Newydd a Chei Connah yn rowndiau nesaf Ewrop

Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 22 Gor 2019, 15:43

Heddiw, mewn seremoni ym mhencadlys UEFA, cafodd y Seintiau a’r Nomadiaid wybod pwy fydd yn eu hwynebu yn rowndiau nesaf cystadlaethau Ewrop.

Fe fydd y Seintiau Newydd yn croesawu Copenhagen i Neuadd y Parc nos yfory, tra bod bechgyn Andy Morrison yn paratoi i herio Partizan o Serbia nos Iau, Gorffennaf 25 ar gyfer cymal cyntaf ail rownd ragbrofol Cynghrair Europa.

Pe bai’r Seintiau yn llwyddiannus dros y ddau gymal yn erbyn y clwb o Ddenmarc, yna, fe fydd Scott Ruscoe a’i dîm yn cwrdd â naill ai HJK Helsinki (Ffindir) neu Red Star Belgrade (Serbia) yn y rownd nesaf.

Mi fydd y cymal cyntaf yn cael ei chwarae 6/7 Awst gyda’r ail gymal wythnos yn ddiweddarach ar Awst 13.

Os colli bydd eu hanes, fe fydd Pencampwyr UG Cymru yn disgyn yn syth i gystadlu yng Nghynghrair Europa ac yn wynebu PFC Ludogorets Razgrad o Fwlgaria neu Valur Reykjavik o Wlad yr Iâ – gyda’r cymal cyntaf i’w chwarae ar Awst 8.

Fe all Cei Connah wynebu Malatyaspor (Twrci) neu Olimpika Ljubliana (Slofenia) yn y rownd nesaf gyda’r cymal cyntaf i’w chwarae ar Awst 8 a’r ail gymal i ddilyn wythnos yn ddiweddarach ar Awst 15.

Y Seintiau Newydd:

UEFA Cynghrair y Pencampwyr

Red Star Belgrade (Serbia) neu HJK Helsinki (Ffindir)

UEFA Cynghrair Europa

Knattspyrnufélagið Valu (Gwlad yr Iâ) neu PFC Ludogorets Razgrad (Bwlgaria)

Cei Connah:

UEFA Cynghrair Europa

Yeni Malatyaspor (Twrci) neu NK Olimpija Ljubljana (Slofenia)