Gwyliwch ddwy gêm rownd gynderfynol Cwpan Cymru JD ar Sgorio

info cwpan cymru ROWND GYNDERFYNOL 18 19 SION
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 11 Maw 2019, 12:32

Bydd y ddwy gêm yn rowndiau cynderfynol Cwpan Cymru JD yn cael eu dangos yn fyw gan Sgorio. Parc Latham, cartref CPD Y Drenewydd, fydd y lleoliad ar gyfer y ddwy gêm, sy’n cael eu chwarae ar benwythnos Mawrth 30 a 31.

Mi fydd Y Seintiau Newydd yn herio’r Barri ar ddydd Sadwrn 30 Mawrth yn y gêm gyntaf (cic gyntaf 7.30), gyda’r gêm yn cael ei dangos yn fyw ar S4C.

Y tro diwethaf i’r ddau dîm gwrdd yn y gwpan oedd yn nhymor 2015/16, pan gurodd y Seintiau o bum gôl i ddwy ym Mharc Jenner, cyn mynd ymlaen i ennill y ystadleuaeth yn Wrecsam yn erbyn Airbus UK Broughton.

Bydd yr ail gêm, rhwng Met Caerdydd a Chei Connah ar ddydd Sul 31 Mawrth, (cic gyntaf 12.30), yn cael ei dangos yn fyw ar dudalen Facebook Sgorio ac ar wefan S4C.

Mae Met a’r Nomads yn barod wedi cwrdd mewn gêm rownd gynderfynol y tymor hwn, gyda’r Saethwyr yn trechu o un gôl i ddim yng Nghwpan Nathaniel MG.

Mi fydd Cei Connah, sef deiliad Cwpan Cymru, yn anelu i gyrraedd eu hail rownd derfynol y tymor hwn, wedi iddyn nhw eisoes sicrhau lle yn ffeinal Cwpan Her Irn Bru yr Alban.