Hwngari v Cymru

Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 10 Meh 2019, 14:00

Gêm ragbrofol UEFA Euro 2020 yn fyw, yng nghwmni’r cyn-chwaraewyr rhyngwladol John Hartson ac Owain Tudur Jones yn fyw nos Fawrth am 19:25 ar S4C.

Mae’r golled o 2-1 yn erbyn Croatia brynhawn Sadwrn yn golygu bod Cymru yn disgyn i’r trydydd safle yn y tabl – tri phwynt y tu ôl i Croatia a’u gwrthwynebwyr nesaf – Hwngari.

Hwngari sydd ar frig Grŵp E, yn dilyn dechrau addawol i’w hymgyrch. Er iddynt golli yn eu gêm agoriadol yn erbyn Slofacia buddugoliaethau yn erbyn Croatia ac Azerbaijan.

Croatia 2-1 Cymru

Gôl i’w rwyd ei hun gan James Lawrence yn rhoi Croatia ar y blaen wedi 17 munud a Perišić yn dyblu’r fantais wedi dryswch yn amddiffyn yr ymwelwyr yn fuan yr ail hanner.

Cymru’r brwydro’n ôl – er gwaetha’r gwres llethol a David Brooks yn rhoi llygedyn o obaith i Gymru ar ôl dod ymlaen fel eilydd a tharo un yn ôl wedi chwarter awr yn weddill.

Fe orffennodd Cymru’n gryf – ond profiad y tîm a gyrhaeddodd rownd derfynol Cwpan y Byd lai na blwyddyn yn ôl yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth yn Stadion Gradski.

Newyddion diweddaraf:

Rheolwr Cymru yn awgrymu y gallai wneud newidiadau i’r tîm cyn wynebu Hwngari.

Er nad oedd Brooks ac Ampadu yn ddigon ffit i ddechrau yn erbyn Croatia – y ddau wedi creu argraff ar ôl dod ymlaen fel eilyddion.

Rheolwr Hwngari, Marco Rossi wedi ei wahardd rhag sefyll ar yr ystlys ar ôl derbyn cerdyn coch yn ystod y fuddugoliaeth yn Baku.

Bydd 3,000 o seddi yn y Groupama Arena, Budapest, ddim ar gael nos Fawrth fel rhan o gosb gan UEFA.

Mae sawl cyhuddiad yn erbyn cefnogwyr Hwngari, gan gynnwys ymddygiad hiliol honedig yn ystod y gêm yn erbyn Slofacia ym mis Mawrth.

Carfan Cymru
Golwyr:
Wayne Hennessey (Crystal Palace), Danny Ward (Leicester City), Adam Davies (Barnsley);

Amddiffynwyr:
Ashley Williams (Stoke City ar fenthyg o Everton), Neil Taylor (Aston Villa), Chris Mepham (Bournemouth), Chris Gunter (Reading), Connor Roberts (Abertawe), Ben Williams (Barnsley), Ethan Ampadu (Chelsea), Joe Rodon (Abertawe), Tom Lockyer (Bristol Rovers), James Lawrence (Anderlecht), Ben Davies (Tottenham);

Canol Cae:
Joe Allen (Stoke), Jonny Williams (Charlton Athletic), Will Vaulks (Rotherham United), David Brooks (Bournemouth), Matt Smith (Manchester City), Dylan Levitt (Manchester United), Daniel James (Abertawe);

Blaenwyr:
Gareth Bale (Real Madrid), Ben Woodburn (Lerpwl), Harry Wilson (Derby County ar fenthyg o Lerpwl), Tom Lawrence (Derby County), Rabbi Matondo (Schalke 04), George Thomas (Scunthorpe United ar fenthyg o Leicester City), Sam Vokes (Stoke), Kiefer Moore (Barnsley).

Hwngari v Cymru – yn fyw ar S4C nos Fawrth am 19:25, ymunwch â Dylan Ebenezer a’r tîm, gyda sylwebaeth gan Nic Parry a Malcolm Allen.