Kilmarnock 0-2 Cei Connah

c mor pen 2
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Gwener, 19 Gor 2019, 09:08

Cei Connah yn sicrhau buddugoliaeth anhygoel gan synnu’r Albanwyr i ennill 3-2 dros y ddau gymal yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Europa.

Rhwydodd Ryan Wignall gyda’i ben cyn i Callum Morris ei selio hi o’r smotyn i’r Nomadiaid i wyrdroi’r golled o 2-1 yn y cymal cyntaf.

Ond does dim amser i ddathlu i griw Andy Morrison sydd nawr yn paratoi ar gyfer cymal cyntaf yr ail rownd ragbrofol, gartref yn erbyn Partizan Belgrade o Serbia, nos Iau nesaf yn Y Rhyl.

Kilmarnock oedd y ffefrynnau clir i ennill y rownd, wedi i’r clwb o Ayrshire orffen yn 3ydd yn Uwch Gynghrair yr Alban y tu ôl i Celtic a Rangers.

Fe gafon nhw fraw yn y cymal cyntaf pan aeth Cei Connah ar y blaen trwy gôl i’w rwyd ei hun gan y cefnwr Greg Taylor.

Ond fe sgoriodd Killie ddwy gôl hwyr yn Stadiwm Belle Vue, Y Rhyl, i ennill 2-1 yn y cymal cyntaf, oedd yn golygu bod rhaid i Cei Connah sgorio ddwywaith yn Mharc Rygbi yr wythnos ganlynol.

A dyna’n union wnaethon nhw!

Wedi hanner cyntaf di-sgôr, Ryan Wignall sgoriodd gyntaf gyda pheniad deallus yn curo’r golwr Jamie MacDonald wedi 50 munud.

Yna gyda 10 munud yn weddill, cafodd Jamie Insall ei faglu’n y cwrt gan Stuart Findlay (sgoriwr y gôl fuddugol yn y cymal cyntaf), ac fe anfonwyd yr amddiffynnwr o’r maes am y drosedd.

Callum Morris oedd y gŵr dewr gamodd i gymryd y gic, ac fe osododd y bêl yn daclus i gefn y rhwyd i sichrau ei drydedd gôl i Gei Connah yn Ewrop.

Cafodd Wignall ei yrru o’r cae wedi 85 munud wedi iddo weld ei ail gerdyn melyn, ond fe safodd y Nomadiaid yn gadarn i selio un o’r buddugoliaethau mwyaf cofiadwy yn holl hanes pêl-droed Cymru.