Lloegr ‘C’ 2-2 Cymru ‘C’

Football – Friendly C International – England v Wales
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mawrth, 19 Maw 2019, 22:48

Tîm o sêr Uwch Gynghrair Cymru yn sicrhau gêm gyfartal 2-2 ar ôl i Gymru fynd ar ei hol hi ddwywaith yn ystod y gêm yn stadiwm Peninsula, Salford.

Sgoriodd yr eilydd Adam Roscrow i sicrhau gêm gyfartal i Gymru yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Lloegr C yn stadiwm Peninsula, Salford nos Fawrth.

Sgoriodd Lloegr wedi 24 munud o chwarae, Luke Trotman yn dawnsio mewn i’r cwrt cosbi cyn croesi i’r cwrt chwech lle sgoriodd Nathan Peate gôl i’w rwyd ei hun.

Llwyddodd Cymru i unioni’r sgôr cyn yr egwyl, cic-rydd ddeallus Curtis Green yn dal amddiffyn Lloegr allan a Kayne McLaggon yn bachu ar y cyfle i Gymru.

Fe ddylai Alex Ramsay wedi gwneud yn well ar gyfer ail gôl Lloegr gyda Kurt Willoughby yn curo’r golwr ar ei bostyn agosaf o gic rydd o 30 llath.

Sgoriodd Cymru eu hail gôl drwy Adam Roscrow, pêl dda gan y bytholwyrdd Chris Venables dros amddiffyn y Sais ac ymosodwr Met Caerdydd yn claddu’r bêl i gefn y rhwyd.

Cymru XI: Alex Ramsay (g), Dylan Rees, Chris Hugh, Nathan Peate, Emlyn Lewis, Clayton Green, Chris Venables, Aeron Edwards, Kayne McLaggon, Eliot Evans, Henry Jones