Lloegr ‘C’ v Cymru ‘C’ – yn fyw ar Facebook Sgorio

Football – Friendly C International – Wales v England
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Llun, 18 Maw 2019, 10:05

Mae Cymru ‘C’ – sef tîm o sêr Uwch Gynghrair Cymru JD – yn wynebu Lloegr ‘C’ nos Fawrth mewn gêm gyfeillgar yn Stadiwm Peninsula, Salford. Bydd y gêm yn fyw ar sianel Facebook a Youtube Sgorio, gyda’r gic gyntaf am 7:45.

Mae Mark Jones wedi dewis carfan o 21 chwaraewr ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Lloegr nos Fawrth, 19 Mawrth.

Ymosodwr Caerfyrddin, Liam Thomas yw prif sgoriwr y garfan gyda 20 gôl y tymor hwn – 18 yn y gynghrair.

Y Barri a Met Caerdydd sydd â’r gynrychiolaeth fwyaf yn y garfan, gyda phum chwaraewr o’r naill dim yn ennill eu lle yng ngharfan Cymru C.

Y tro diwethaf i’r timau gwrdd llwyddodd Lloegr ‘C’ i ennill o 2-3 ar Barc Jenner, Y Barri nôl ym mis Mawrth 2018.

Sgoriodd Fejiri Okenabirhie hat-tric i Loegr wrth i Mark Jones a Chris Venable sgorio i Gymru.

Carfan Cymru ‘C’
Gôl-geidwad:
Alex Ramsey – Caernarfon
Ashley Morris – Y Bala

Amddiffynwyr:
Callum Roberts – Y Drenewydd
Christopher Hugh – Y Barri
Emlyn Lewis – Met Caerdydd
Joel Edwards – Met Caerdydd
Dylan Rees – Met Caerdydd
Nathan Peate – Derwyddon Cefn

Canol Cae:
Aeron Edwards – Y Seintiau Newydd
Chris Venables – Y Bala
Clayton Green – Y Barri
Henry Jones – Y Bala
Jake Phillips – Cei Connah
Jordan Cotterill – Y Barri
Matthew Jones – Aberystwyth
Robbie Patten – Y Barri

Ymosodwyr:
Adam Roscrow – Met Caerdydd
Danny Brookwell – Caernarfon
Eliot Evans – Met Caerdydd
Kayne McLaggon – Y Barri
Liam Thomas – Caerfyrddin