Mantais i’r Cofis yn y gemau ail gyfle

cfon
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Gwener, 26 Ebr 2019, 23:06

Caernarfon yn sicrhau’r 4ydd safle a’r fantais o chwarae gemau cartref yn y gemau ail gyfle. Bydd y Cofis yn wynebu Met Caerdydd ar yr Oval ar nos Sadwrn Mai 11, gyda’r Drenewydd yn croesawu’r Bala ar nos Wener Mai 10.

Yn dilyn noson ddramatig ar Faes Tegid gyda bechgyn Colin Caton yn curo’r Cofis 1-0, a’r Drenewydd ar y blaen yn erbyn Y Barri 0-3 ar Barc Jenner gydag eiliadau yn weddill – a’r Drenewydd wedi dringo i’r 4ydd safle – fe enillodd Y Barri cic o’r smotyn.

Sgoriodd Kayne McLaggon o’r smotyn i’r Barri – a’r Cofis yn dringo nôl i’r 4ydd safle oherwydd gwahaniaeth goliau!

Felly, tymor cofiadwy i Clwb Pêl-droed Caernarfon yn ôl yn Uwch Gynghrair Cymru gan orffen yn y 4ydd safle a’r fantais o gemau cartref yn y gemau ail gyfle am le yn Ewrop y tymor nesaf.

Y Gemau ail-gyfle
10/05 – Y Drenewydd v Y Bala – Facebook Live/ Youtube, gyda’r gic gyntaf am 7:45.
11/05 – Caernarfon v Met Caerdydd – yn fyw ar S4C, gyda’r gic gyntaf am 7:30

19/05 – Rownd derfynol y gemau ail gyfle (yn fyw ar S4C, gyda’r gic gyntaf am 5:15